Bu ymweliad Eisteddfod Genedlaethol Cymru â Cheredigion yn llwyddiant ysgubol.

Braf oedd croesawu pobl o bell ac agos i Dregaron, holl drefi Ceredigion a’r ardaloedd ehangach.

Roedd yn gyfle unigryw i ddathlu iaith a diwylliant yr ardal a Chymru ar y llwyfan cenedlaethol ar ôl cyfnod o ddwy flynedd pan fu’n rhaid gohirio’r Eisteddfod yn sgil y pandemig.

Cefnogwyd yr economi leol yn ystod yr wythnos, boed hynny ar y maes neu wrth i bobl grwydro ymhellach i gefnogi busnesau’r sir.

Crëwyd hefyd ymdeimlad o berthyn wrth i gymunedau ddod ynghyd yn y misoedd cynt i addurno, codi arian, cymdeithasu a chael hwyl.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Braint Ceredigion oedd cael croesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru i’r sir. Bu’n llwyddiant ysgubol – o’r cystadlu i’r cyd-ddathlu – a bydd holl waith caled trigolion Ceredigion yn parhau fel gwaddol gref i’r dyfodol. Pleser oedd gweld pobl yn mwynhau yn ein sir, gan gefnogi ein heconomi leol a rhyfeddu at gyfoeth a phrydferthwch naturiol ein hardaloedd gwledig. Braf hefyd oedd gweld cymaint o bobl yn mwynhau yn ardal Pentre’ Ceredigion, lle cyflwynwyd arlwy arbennig i ddathlu busnesau, pobl, a straeon lleol. Llongyfarchiadau mawr iawn i bawb. Byddwn yn sugno mêl o gwch atgofion yr wythnos hon am flynyddoedd i ddod rwy’n siŵr, a dymunwn yn dda i’r brifwyl yn y dyfodol.”

Pentre’ Ceredigion oedd cartref Cyngor Sir Ceredigion ar faes y brifwyl, a dyma’r tro cyntaf i Awdurdod Lleol gael ardal wedi’i dynodi ar gyfer cynnal gweithgareddau. Darparwyd amrywiaeth o weithgareddau i blant, pobl ifanc a theuluoedd yn ystod yr wythnos. Ymwelodd dros 25 mil o bobl i’r ardal i gefnogi busnesau newydd, gwylio arddangosfeydd coginio oedd yn rhoi sylw i fusnesau a chynnyrch lleol, mwynhau yn yr ardal chwarae i blant, dysgu sgiliau newydd, a gwrando ar berfformiadau difyr ar y llwyfan perfformio.

Hoffai Cyngor Sir Ceredigion ddiolch i Eisteddfod Genedlaethol Cymru am bob cydweithrediad wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod, ynghyd â diolch i drigolion lleol am gynnal prifwyl penigamp ac i bawb a gafodd gyfle i ymweld a mwynhau yn ein sir arbennig ni.

#Steddfod2022 – am wythnos, am brofiad, am brifwyl!

08/08/2022