Mae cael teulu caredig a lle i alw yn gartref yn rhywbeth y mai nifer o blant yn cymryd yn ganiataol; ond, mae yna blant yng Ngheredigion sydd dal yn edrych am gartref. Fel rhan o Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol, sy’n digwydd rhwng 15 a 21 Hydref, gofynnir i bobl i ystyried agor eu cartrefi a’u calonnau i’r rheini sy’n aros i gael teulu.

Cynhelir noson wybodaeth yn Yr Atom, 18 Stryd y Brenin, Caerfyrddin ar ddydd Gwener, 19 Hydref, o 6yh i 7yh. Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethu Dysgu a Dysgu Gydol Oes sydd hefyd yn Eiriolwr ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, “ Mae hyn yn gyfle gwych i fabwysiadwyr arfaethedig i gael gwybod mwy am y broses o fabwysiadau plant yn y sir sydd yn aros am gartref cariadus, parhaol a sefydlog. Bydd hyn yn siawns hefyd i gwrdd â mabwysiadwyr arfaethedig eraill.”

Mae gan Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru dimau mabwysiadu sy’n cwmpasu’r awdurdodau lleol sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Eu nod yw sicrhau bod plant yn tyfu’n rhan o deulu cariadus a pharhaol o blentyndod hyd at oedolaeth.

Siaradodd Sara* o Geredigion am ei phrofiadau o fynd trwy’r broses fabwysiadu a chroesawu dau blentyn mewn i’w chartref cariadus hi, “Bron i ddwy flynedd yn union wedi i ni gyflwyno’n ffurflen gais i fabwysiadu, cyrhaeddodd dau gorwynt bach ein tŷ ni, a’i droi’n gartref swnllyd, hapus a llawn cawdel bendigedig! Y cam cyntaf wedi cyflwyno’r cais oedd mynychu tridiau o hyfforddiant, dros gyfnod o 6 wythnos. Roedd yr hyfforddiant yn bwysig ac yn agoriad llygad am bob math o resymau, ond yn berffaith ar gyfer ffocysu’r meddwl er mwyn sicrhau ein bod gwirioneddol eisiau mabwysiadu. Cawsom gefnogaeth arbennig gan ein gweithiwr cymdeithasol, ond bu’r broses ei hun yn hir a heriol a bu’n rhaid i ni aros ac aros tra bod prosesau cyfreithiol yn mynd yn eu blaenau. Er mor anodd oedd hynny ar y pryd, o edrych yn ôl roedd e’n werth bob munud. Y darn anoddaf i ni oedd bod misoedd rhwng gweld y plant am y tro cyntaf a derbyn cadarnhad y bydden nhw’n dod atom i fyw. Roedd hyn yn eithriad - fel arfer mae’r broses yn symud ynghynt.”

“Yn ein profiad ni mae creu a chynnal perthynas dda gyda’r teulu maeth yn hollbwysig, maent yn ffynhonnell o wybodaeth a chefnogaeth. Cyn i’r plant ddod i fyw atom ni, roedd angen dros wythnos o gyflwyniadau yng nghartref y teulu maeth – mae’r cyfnod hwn yn allweddol ond yn llawn pwysau, pleser, blinder ac emosiwn. Mae misoedd ers hynny nawr ac mae’r plant yn fyrlymus a hapus gyda ni yn eu cynefin newydd, ac yn mwynhau bod yn rhan o deulu cariadus o ffrindiau a pherthnasau. Maent yn mwynhau yn yr ysgol leol a doedd dysgu Cymraeg ddim yn broblem o gwbl iddyn nhw, ac maen nhw hyd yn oed yn breuddwydio yn Gymraeg erbyn hyn!”

“Mae mabwysiadu yn siwrne fawr sydd weithiau’n rhwydd ac weithiau’n anodd ac mae’n bwysig deall a derbyn hynny cyn mentro ar y daith. Mae’n bwysig hefyd manteisio ar bob cefnogaeth, hyfforddiant a chyngor. Mae llawer o heriau o’n blaenau, llawer o siom a dagrau ond yn bwysicach mae llawer o chwerthin, cariad a hapusrwydd yn llenwi’n bywydau nawr ac i’r dyfodol. Ewch amdani.”

Blwyddyn ddiwethaf (2017-2018), cafodd 29 o fabwysiadwyr eu cymeradwyo trwy Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’r mabwysiadwyr hynny yn cynnwys parau priod, parau sydd ddim yn briod, pobl sengl a pharau o’r un rhyw. Mae wastad angen mwy o fabwysiadwyr i ddod ymlaen oherwydd mae’r galw am leoliadau wedi cynyddu eleni.

Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â http://www.mabwysiaducgcymru.org.uk/. Gallwch hefyd ddilyn Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ar eu tudalen Trydar, @adoptmw_wales.

15/10/2018