Mae Derek Brockway, sef y ‘Weatherman’, wedi dychwelyd i Geredigion i fwynhau’r llwybr arfordirol. Mae’r Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus, ynghyd â grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig, wedi bod yn brysur yn cynnal gwaith ar y llwybr arfordirol i sicrhau ei fod yn barod i bawb ei fwynhau yn ystod y gwanwyn eleni.

Mae gwaith megis gosod gatiau newydd, torri gordyfiant a sicrhau bod y grisiau’n glir ac yn ddiogel i’w defnyddio i gyd wedi bod yn rhan o’r gwaith cynnal a chadw a wnaed ar lwybrau arfordirol Ceredigion cyn i bobl ddechrau eu defnyddio mwy wrth i’r tywydd gynhesu yn y misoedd sydd i ddod.

Mae Eifion Jones yn Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus i Gyngor Sir Ceredigion. Dywedodd Eifion, “Fel tîm, rydym yn ddiolchgar iawn i’n gwirfoddolwyr gweithgar sy’n helpu i sicrhau bod y llwybrau Hawliau Tramwy yn hygyrch i’r cyhoedd. Rydym yn ddyledus iddyn nhw am eu hangerdd a’u brwdfrydedd wrth sicrhau bod y llwybrau yn barod i groesawu’r ymwelwyr.”

Yn y gyfres ‘Weatherman Walking’, sy’n cael ei darlledu yn awr, mae Derek yn cerdded ar hyd wyth darn o lwybr arfordir Cymru, sy’n llwybr 870 milltir o hyd. Ar hyd y ffordd, bydd e’n cwrdd â cheidwaid llwybrau lleol a gwirfoddolwyr i ddysgu am hanes a daearyddiaeth yr ardal a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar hyd yr arfordir. Yng Ngheredigion, bydd Derek yn dangos rhai o olygfeydd ysblennydd y llwybr arfordirol rhwng y Borth/Ynyslas ac Aberystwyth ar BBC One Wales am 7:30yh ddydd Gwener, 26 Ebrill.

Tra roedd yng Ngheredigion, cafodd Derek gyfle i fynd ar fwrdd padlo yn y Borth; archwilio Cors Fochno, sef y gyforgors sy'n rhan o lwybr arfordir Ceredigion; ymweld ag Amgueddfa Gorsaf y Borth, dysgu am stori Cantre'r Gwaelod yn Sarn Gynfelyn a theithio ar Reilffordd y Graig i fyny Craig Glais yn Aberystwyth.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â llwybr arfordir Ceredigion, ewch i http://www.ceredigioncoastpath.org.uk/index_cwm.html

11/04/2019