Bydd cyfle i drigolion Ceredigion ddysgu mwy am sut y gallant ddiogelu eu hunan yn erbyn sgamiau mewn digwyddiad yn Y Bandstand, Aberystwyth ar 27 Medi rhwng 9:30yb a 1:30yp.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymuno â Tîm Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol a Phartneriaeth yn Erbyn Sgamiau Cymru a fydd yn teithio ledled Cymru yn cynnal digwyddiadau codi ymwybyddiaeth rhwng 24 a 28 Medi.

Mae Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau yn fenter Safonau Masnach Cenedlaethol sy’n anelu at ddiogelu ac atal pobl wrth ddod yn ddioddefwyr trwy rymuso cymunedau i ‘Sefyll yn Erbyn Sgamiau.’

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd, “Mae sgamiau’n aml yn targedu’r bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas ond y realiti yw y gall unrhyw un fod yn ddioddefwr. Mae sgamiau yn dinistrio bywydau a gall effeithio pobl yn ariannol ac yn emosiynol. Rwy’n falch, felly, bod Cyngor Sir Ceredigion wedi ymuno yng ngwaith Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol ac eraill sy’n gweithio ar y cyd i atal pobl rhag dod yn ddioddefwyr. Trwy ymuno fel sefydliad, rydym yn ymgymryd â hyrwyddo’r fenter Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau.”

Bob blwyddyn, mae sgamiau yn achosi rhwng gwerth £5bn a £10bn o golled i ddefnyddwyr y DU. Yn ogystal a’r effaith ariannol, gall sgamiau gael effaith emosiynol a seicolegol difrifol ar ddioddefwyr.

Dywedodd Lousie Baxter, Rheolwr Tîm y Safonau Masnach Cenedlaethol, “Mae tactegau sy’n cael eu defnyddio gan sgamwyr yn gadael dioddefwyr ar eu pen eu hun yn gymdeithasol a chywilydd i ddweud wrth eu ffrindiau a’u teulu am yr hyn sy’n digwydd tu ôl i ddrysau caeedig. Mae’n ffantastig i gael sefydliad i’n helpu ni i daclo'r broblem yma ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Byddwn i’n annog pawb sydd â diddordeb mewn dangos eu cefnogaeth i ymuno a’r ymgyrch ac i fod yn rhan o’r rhwydwaith i gynyddu Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau.”

Gawlch heibio yn Y Bandstand, Aberystwyth ar 27 Medi rhwng 9:30yb a 1:30yp i ddysgu mwy am sut i gadw’n ddiogel yn erbyn sgamiau. Am fwy o wybodaeth am ddod yn Ffrind yn Erbyn Sgamiau, ewch i www.friendsasagainstscams.org.uk

 

18/09/2018