Mae un o drigolion Ceredigion wedi cerdded 10,000 o gamau y dydd yn ystod pandemig y coronafeirws er mwyn cadw’n heini ac yn iach. Penderfynodd Gillian o Lanybydder, sydd wedi’i chofrestru ar y rhaglen NERS (y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff), gerdded 10,000 o gamau y dydd er mwyn cadw’n heini yn ystod pandemig y coronafeirws. Fel aelod o grŵp Cerdded er Lles Gorllewin Cymru, mae’n dweud wrthym sut mae cerdded wedi bod o fudd i’w hiechyd corfforol a meddyliol.

Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun.

Fy enw i yw Gillian ac rwy'n byw gyda fy ngŵr yn Nrefach, Llanybydder, tua 4 milltir y tu allan i Lanbedr Pont Steffan. Mae gen i 3 o blant a 5 o wyrion. Dathlais fy mhen-blwydd yn 70 oed yn 2020!

Ble ydych chi'n hoffi mynd i gerdded?

Rwy'n lwcus fy mod yn byw ar fferm mewn ardal wledig gyda digon o le ac awyr iach a glân. Rwyf wedi nodi 6 llwybr cylchol yn lleol, a phob un yn amrywio rhwng 4 a 6 milltir o'm cartref. Rwyf hefyd wrth fy modd yn cerdded ar hyd llwybr yr arfordir yng Ngheredigion, yn enwedig o Langrannog, Aberaeron neu Geinewydd. Fel arfer, rwy'n cerdded ar fy mhen fy hun, ond mae fy ngŵr yn ymuno â mi ar ddydd Sul.

Sut mae cerdded yn gwneud i chi deimlo?

Rwy’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored a gweld y dirwedd yn newid yn ystod y pedwar tymor. Mae'n rhoi amser i mi ymlacio a chanolbwyntio ar feddyliau cadarnhaol a datrys unrhyw rwystredigaethau neu sefyllfaoedd sy'n peri straen. Mae cerdded yn ymarfer corff, a gwelais fy mod yn cysgu gymaint yn well ar ôl fy nhaith gerdded ddyddiol. Mae’n gwella fy lles corfforol a meddyliol.

Sut mae cerdded wedi eich helpu chi i ddelio â’r pandemig presennol?

Yr ymarfer corff hawsaf i mi fyddai cerdded. Cefais Fitbit gan y teulu fel anrheg Nadolig, felly penderfynais y byddwn yn ceisio cerdded 10,000 o gamau bob dydd. Trefnodd staff NERS Ceredigion Actif ymarferion dan do hefyd i ni eu gwneud os oedd y tywydd yn rhy wael i gwblhau ein teithiau cerdded. Prynais feic ymarfer corff oddi ar dudalen swap-shop Llanbedr Pont Steffan i'w ddefnyddio pan na allwn gwblhau fy nharged dyddiol o gerdded yn yr awyr agored! 

Roedd y rhan fwyaf ohonom yn disgwyl y byddai'r pandemig wedi dod i ben ymhen ychydig fisoedd. Ond ar ôl cerdded am 12 mis cyfan rwyf wedi llwyddo i gerdded o leiaf 10,000 o gamau ar gyfartaledd bob dydd ac wedi cerdded cyfanswm o bron i 4 miliwn o gamau - sy'n cyfateb i tua 1,750 milltir. Prin y gallaf gredu'r ffigurau!

Daeth cymhelliant o sawl cyfeiriad, yn enwedig y teithiau rhithwir a drefnwyd gan staff NERS Ceredigion Actif. Fe wnaethom “deithio” o amgylch arfordir y DU; Pegwn y Gogledd; Mur Mawr Tsieina, dilyn afon Nîl yn Affrica, ac rydym nawr yn teithio yn Awstralia. Roeddwn i'n teimlo bod angen i mi fod yn chwaraewr tîm da, ac roeddwn yn teimlo’n falch wrth gyflwyno cyfanswm fy nghamau i'r staff bob wythnos.

Yng nghanol yr holl dristwch a’r trychinebau a ddaeth yn sgil y pandemig ledled y byd, roedd yn deimlad braf cyflawni nodau ar lefel bersonol a gwella fy iechyd corfforol yn ogystal â’m hiechyd emosiynol.

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau i gymell pobl i fynd allan i gerdded pan fyddwch chi'n teimlo fel aros i mewn a rhoi'r tegell ymlaen yn lle hynny?

Peidiwch â rhoi gormod o bwysau arnoch chi’ch hun. Gosodwch nodau realistig a gwrandewch ar eich corff. Os na allwch gyflawni eich disgwyliadau heddiw, mae yfory’n ddiwrnod newydd. 

Mae cyflawni nodau realistig yn deimlad boddhaol iawn. Canmolwch eich hun a dywedwch wrth aelodau’r teulu neu ffrindiau eich bod yn teimlo’n falch o’ch cyflawniad. Mae’n bwysig bod yn garedig â chi’ch hun ac mae hefyd yn gwneud i chi deimlo’n dda.

Mae cerdded yn cryfhau’r cyhyrau yn y corff ac yn cadw eich cymalau yn hyblyg. Rwy’n bwyta’n dda, ac yn yr un modd â nifer o bobl eraill, rwyf wedi bod yn brysur yn rhoi cynnig ar ryseitiau newydd yn ystod y pandemig. Mae cerdded yn ymarfer sy’n helpu i golli pwysau. Mae gen i broblemau gyda'r galon a darganfyddais fod cerdded mewn lleoliad gwledig yn ymlaciol ac yn helpu i ostwng fy mhwysedd gwaed.

Mae rhai pobl yn gwrando ar gerddoriaeth wrth fynd am dro, eraill yn gwrando ar synau byd natur, ac eraill yn mwynhau cael sgwrs gyda chymdogion dros wal yr ardd. Gwnewch yr hyn sy’n eich gwneud chi’n hapus. Os ydych yn mwynhau eich hun, rydych yn fwy tebygol o ddal ati a llwyddo. Gallwch wastad fwynhau’r baned honno fel gwobr pan fyddwch yn cyrraedd adref ar ôl cwblhau eich taith gerdded!

I gael gwybod mwy am Gerdded er Lles Gorllewin Cymru, ewch i: https://westwaleswalkingforwellbeing.org.uk/cy/ 

 

06/04/2021