Aeth Bayley Harries, prentis Trin Gwallt Lefel 2 yn Hyfforddiant Ceredigion (HCT), a'r wobr uchaf yn ei rownd mewn cystadleuaeth sgiliau mawreddog yn Wrecsam ar 26 Tachwedd. Nod y gystadleuaeth, a drefnwyd gan World Skills UK, yw ysbrydoli pobl ifanc sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd galwedigaethol i gyflawni eu potensial llawn yn eu gyrfa ddewisol.

Trwy ennill ei rownd, fe wnaeth Bayley gystadlu yn y rownd Derfynol Genedlaethol yng Nghaerdydd ar 17 Rhagfyr, gan ddod yn drydydd mewn Cymru gyfan. Roedd holl staff a chyd-ddysgwyr yn HCT yn cefnogi Bayley wrth iddi symud ymlaen yn y gystadleuaeth. Yn dilyn canlyniad yma, bydd Bayley yn parhau i gystadlu yng nghystadleuaeth ledled y DU yn 2019.

Llongyfarchodd Carys Randell, tiwtor trin gwallt yn HCT, Bayley am wneud mor dda wrth fynd i mewn i'r gystadleuaeth a chynnal yr ymdrech fawr i ennill y rownd ranbarthol Gogledd i Gymru, “Rwyf mor falch o Bayley ac yn dymuno’r gorau iddi am y gystadleuaeth DU flwyddyn nesaf.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Dysgu, y Cynghorydd Catrin Miles, “Mae cyflawniad Bayley yn dyst i'w gwaith caled a'i ymrwymiad. Mae Hyfforddiant Ceredigion Training wedi ei hyfforddi a'i hannog i gyrraedd y lefel uchel hon. Mae Bayley yn dangos faint mae hi wedi datblygu fel prentis trin gwallt a’r hyfforddiant rhagorol sydd ar gael yn HCT.”

Mae HCT yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ar gyfer pobl o bob oed, gan gynnwys Trin Gwallt, Gofal Plant, Gweinyddu Busnes, Technoleg Gwybodaeth, Gwaith Saer, Plymio, Trydan, Gofio, Amaethyddiaeth, Mecaneg Modur a Weldio. Am fwy o wybodaeth, dewch o hyd i HCT ar Facebook: www.facebook.com/HyfforddiantCeredigion neu ewch i'r wefan: www.ceredigiontraining.co.uk.

20/12/2018