Mae trigolion Ceredigion yn cael eu annog i edrych ac i ddiweddaru eu gwybodaeth sydd ar y gofrestr etholiadol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn i drigolion Ceredigion gadw llygad am ffurflenni ymholiadau cartrefi yn y post, ac i wneud yn siŵr eu bod yn ymateb cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Eifion Evans, Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Ngheredigion, “Mae gennym ni dros 34,600 o gyfeiriadau yng Ngheredigion i edrych arno a sicrhau bod gennym ni'r manylion cywir ar y gofrestr etholiadol. Rydym yn ddiolchgar i chi am wirio’r ffurflen pan fydd hi'n cyrraedd a'i dychwelyd cyn gynted â phosibl.”

Bwriad y ffurflen yw sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn gyfredol, a nodi unrhyw drigolion nad ydynt wedi'u cofrestru fel y gellir eu hannog i wneud hynny.

Parhaodd Eifion Evans, “Os nad ydych wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos ar y ffurflen. Bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen a'i dychwelyd atom ni i ddechrau’r broses gofrestru.”

Mae pobl sydd wedi symud cartref yn ddiweddar yn cael eu hannog yn benodol i gadw llygad am y ffurflen a gwirio'r manylion.

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, “Mae'n bwysig iawn bod pawb sydd â hawl i bleidleisio yn gallu gwneud. Gwirio'ch manylion ar y ffurflen fydd yn eich cyrraedd cyn bo hir yw un o'r ffyrdd rhwyddaf o weld os ydych eisoes wedi cofrestru. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cofrestru i bleidleisio ar ein gwefan www.dybleidlaisdi.co.uk.”

Gall unrhyw un sydd â chwestiynau gysylltu â'r Tîm Etholiadau ar 01545 572 032 neu e-bostio ier@ceredigion.gov.uk.

 

25/06/2018