Mae treial newydd wedi'i lansio yn Aberystwyth, fel rhan o ymgyrch Caru Aber, er mwyn helpu i gadw canol y dref yn lân ar ddiwrnodau casglu gwastraff.

Bydd sachau trwm yn cael eu rhoi ar strydoedd Aberystwyth ar brynhawn dydd Llun cyn y casgliad bag du ar ddydd Mawrth yn y strydoedd canlynol; Stryd Portland, Ffordd Portland, Stryd y Frenhines, Stryd y Gorfforaeth, Y Porth Bach, Y Stryd Newydd a Lôn Cambria.

Dylid rhoi bagiau du yn y sachau erbyn 8yb ar fore Mawrth i'w casglu. Y bwriad yw bod y sachau’n gwarchod a chadw’r gwastraff nes iddo gael ei gasglu. Bydd y sachau yn cael eu hadalw ar ôl i'r gwastraff gael ei gasglu er mwyn osgoi annibendod a rhwystrau ar y strydoedd.

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai. Dywedodd, “Rydym yn gweld y treial hwn fel ffordd ymarferol a chymharol gost-effeithiol o ymateb i faterion hirsefydlog sy’n ymwneud â chyflwyno gwastraff domestig yng nghanol tref Aberystwyth. Bydd y sachau hefyd yn atgoffa preswylwyr yng nghanol y dref ar ba ddyddiau i gyflwyno eu bagiau du.

Mae'r treial yn rhan o ymgyrch Caru Aber, a'r ymgyrch Caru Ceredigion ehangach, lle mae'r cyngor yn edrych i weithio gyda chymunedau lleol i fynd i'r afael â materion sy'n peri pryder neu sy’n bwysig iddynt.

Mae'r dull arloesol hwn yn enghraifft arall o gamau rhagweithiol cadarnhaol y mae'r cyngor yn ei wneud. Y gobaith yw y bydd trigolion canol y dref yn chwarae eu rhan trwy wneud defnydd da o'r sachau gan mai dyma fydd y ffactor hanfodol wrth fesur llwyddiant y cynllun.”

Dylai deunydd ailgylchu glân a gwastraff bwyd barhau i gael ei gyflwyno’n wythnosol yn y cynwysyddion y mae'r cyngor eisoes yn eu darparu o ran y bagiau clir a'r cadau bwyd.

Bydd sicrhau bod y gwastraff cywir yn cael ei gyflwyno yn y ffordd gywir ac ar y diwrnod cywir yn helpu i sicrhau bod strydoedd y dref yn cael eu cadw'n lân a bod y gwastraff yn cael ei gadw, ei reoli a'i drin yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol ac amgylcheddol gyfeillgar â phosibl.

Defnyddiwyd y sachau am y tro cyntaf yn barod ar gyfer casgliadau gwastraff ar ddydd Mawrth 6 Awst 2019. Mae'r adborth cychwynnol yn gadarnhaol gan eu bod wedi gweithio fel ffordd o gadw a gwarchod y gwastraff ar y strydoedd. Roedd hi’n amlwg bod y strydoedd yn lanach.

Mae'r fenter ddiweddaraf hon yn datblygu ar adborth a phrofiad o ddau dreial arall a gynhaliwyd. Bydd llwyddiant y treial yn cael ei fonitro'n barhaus a'i adolygu i adlewyrchu'r profiad a fydd yn cynnwys edrych ar ffyrdd o ymgysylltu â'r holl breswylwyr.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun newydd, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt ar 01545 570 881 neu drwy e-bost ar clic@ceredigion.gov.uk.

09/08/2019