Mae trefniadau ar gyfer dychwelyd i ysgolion Ceredigion ar gyfer mis Ionawr 2021 wedi eu cyhoeddi.

Yn dilyn gwybodaeth ynghylch hyblygrwydd am drefniadau agor ysgolion gan Lywodraeth Cymru, mae disgwyl i bob ysgol fod wedi agor yn llawn i ddisgyblion erbyn 18 Ionawr, 2021.

Trefniadau ar gyfer ysgolion Ceredigion

Bydd dydd Llun, 04 Ionawr, 2021 a dydd Mawrth, 05 Ionawr yn ddiwrnodau Hyfforddiant mewn Swydd a pharatoi yn y sectorau Cynradd ac Uwchradd. Ni fydd disgyblion ar safle’r ysgol na chwaith yn cael eu dysgu o bell.

Ysgolion cynradd

Yn y sector Gynradd, bydd athrawon yn dysgu o bell o ddydd Mercher, 06 hyd at ddydd Gwener, 08 Ionawr, 2021. Anelir at agor ysgolion yn llawn ar gyfer pob disgybl cynradd o ddydd Llun, 11 Ionawr ymlaen. 

Os oes angen, bydd plant gweithwyr allweddol rheng flaen yn medru mynychu eu hysgol o ddydd Mawrth, 05 Ionawr, 2021 ymlaen ar gyfer gofal plant. Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gadw’r disgyblion oddi fewn i’w grwpiau cyswllt.

Ysgolion uwchradd

Yn y sector Uwchradd, bydd disgyblion blynyddoedd 11, 12 a 13 yn mynychu safle’r ysgol o ddydd Mercher, 06 Ionawr, 2021 ymlaen. Bydd disgyblion blynyddoedd 7-10 yn derbyn darpariaeth dysgu o bell rhwng dydd Mercher 06 hyd at ddydd Gwener, 08 Ionawr, 2021.  Anelir at agor ysgolion yn llawn ar gyfer pob disgybl Uwchradd o ddydd Llun, 11 Ionawr, 2021 ymlaen.

Os oes angen, bydd plant gweithwyr allweddol rheng-flaen blynyddoedd 7 ac 8 yn medru mynychu eu hysgol o ddydd Mawrth, 05 Ionawr, 2021 ymlaen ar gyfer gofal plant. Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gadw’r disgyblion oddi fewn i’w grwpiau cyswllt.

Unedau Anghenion Dysgu Ychwanegol Arbenigol a Uned Gyfeirio Disgyblion

Bydd Unedau Anghenion Dysgu Ychwanegol Arbenigol a leolir ar gampws rhai ysgolion yn agor yn llawn i ddisgyblion cynradd ac uwchradd ar 05 Ionawr, 2021. Yn yr un modd, bydd yr Uned Gyfeirio Disgyblion hefyd yn agor yn llawn ar yr un dyddiad. Bydd trafnidiaeth yn ôl yr arfer ar gyfer y disgyblion hyn.

Gwybodaeth bellach

Bydd ysgolion yn darparu gofal plant i blant gweithwyr rheng flaen allweddol i ddisgyblion sydd â 2 riant neu riant sengl yn gweithio i wasanaeth rheng flaen y gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.

Bydd plant sy'n gymwys i Brydau Ysgol Am Ddim yn derbyn taleb neu daliad am y cyfnod hwn, a bydd y rhain yn cael eu hanfon allan yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Ionawr.

Anogir rhieni a gofalwyr i fod yn wyliadwrus am symptomau’r coronafeirws. Os ydych chi, neu aelod o’ch swigen Nadolig, yn profi’n bositif am y coronafeirws, neu’n datblygu symptomau’r coronafeirws, mae’n rhaid i bob aelod o’r swigen Nadolig hunan-ynysu am 10 diwrnod fel pe baent yn aelodau o’r un aelwyd. Dim ond er mwyn cael prawf y dylech adael eich cartref. Gallwch wneud cais am brawf ar-lein neu drwy ffonio 119.

Pe bai plentyn yn derbyn canlyniad prawf positif dros gyfnod y gwyliau, dylid e-bostio SchoolCovidSymptoms@ceredigion.gov.uk  gydag enw’r plentyn, blwyddyn ac ysgol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn deall fod hyn yn gyfnod ansicr i bawb a yn gwerthfawrogi yr holl gyd-weithrediad. Mae’n anodd darogan pa sefyllfa y byddwn ynddi erbyn wythnos gyntaf Ionawr. Gobeithiwn bod y trefniadau hyn yn rhoi eglurder o ran darpariaeth wythnos 05 i 08 Ionawr, 2021.

Mae hyn yn cyd-fynd gyda Strategaeth y Gaeaf i ddiogelu y ddarpariaeth addysg o fewn ysgolion Ceredigion.

Diolch am gadw Ceredigion yn ddiogel.

18/12/2020