Caiff staff ym mhob Cartref Gofal ledled Ceredigion eu profi bob pythefnos fel mater o drefn ar gyfer COVID-19, yn unol â chanllawiau'r llywodraeth. O'r profion yr wythnos diwethaf, cadarnhawyd achosion positif COVID-19 yng Nghartref Gofal MHA Hafan y Waun, Waunfawr, Aberystwyth, sy'n Gartref Gofal annibynnol. Cafodd nifer o staff ganlyniadau profion positif ac felly profwyd pob preswylydd. Mae nifer o breswylwyr wedi profi'n bositif am COVID-19 ac mae achos lluosog wedi’i ddatgan yn y Cartref.

Mae Tîm Rheoli Achos Lluosog aml-asiantaethol wedi'i sefydlu i ymateb i'r digwyddiad hwn. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio'n agos gyda'r Cartref, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i atal lledaeniad y feirws.

Mae'r Cartref wedi cysylltu â theuluoedd y preswylwyr i gyd a bydd y staff yn rhoi diweddariadau rheolaidd i bob teulu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Mae Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rhoi cymorth i staff a thrigolion y Cartref ynghyd â'r MHA, yr elusen genedlaethol i bobl hŷn, sy'n rhedeg Hafan y Waun.

Mae gofalu am drigolion ein cartrefi gofal o'r pwysigrwydd mwyaf i Gyngor Sir Ceredigion. Mae ymweliadau â Chartrefi Gofal yng Ngheredigion yn parhau i gael eu hatal ac mae preswylwyr yn cael cymorth i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau dros y ffôn a galwadau fideogynadledda /skype. Rydym yn hynod ddiolchgar am y cydweithrediad a ddangoswyd gan staff, preswylwyr cartrefi gofal, eu teuluoedd ac aelodau o'r cyhoedd wrth i ni gymryd pob cam i gadw trigolion Ceredigion yn ddiogel ac yn iach.

Mae mor bwysig nag erioed ein bod yn cadw pellter cymdeithasol, yn golchi ein dwylo’n rheolaidd ac yn gwisgo gorchudd wyneb pan nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol. Mae’n rhaid i bawb sy'n datblygu unrhyw un o symptomau COVID-19 ddilyn y canllawiau hunanynysu a threfnu prawf cyn gynted â phosibl, a’r unig adeg y dylent adael eu cartrefi yw er mwyn cael prawf.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor am y coronafeirws ar gael ar ein gwefan: www.ceredigion.gov.uk/coronafeirws

Diolch am gadw hyd braich i leddfu’r baich. Gyda’n gilydd gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

Ni fydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu ar y mater hwn.

09/11/2020