Mae cartref preswyl Bryntirion yn Nhregaron yn cynnig sesiynau therapi wythnosol un i un i breswylwyr er mwyn gwella eu lles a’u hyder. Ariennir y sesiynau gan Ymddiriedolaeth Margaret ac Alick Potter sy’n darparu grantiau i gefnogi pobl sy’n byw yng Ngheredigion sydd â diagnosis o ddementia yn ogystal â’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Mae Gwen Tyte yn breswylydd yng nghartref preswyl Bryntirion ac mae’n derbyn sesiynau celf un i un i wella eu lles. Dywedodd,  “Fyddwn i byth wedi breuddwydio y gallwn i beintio fel hyn. Mae'r sesiynau wedi helpu i ddatblygu fy hyder.”

Gall yr Ymddiriedolaeth ddarparu grantiau ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfarpar sy'n cefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia yng Ngheredigion, fel teithiau undydd gyda hebryngwr, costau cludiant i gyfleusterau gofal dydd i bobl â dementia, gemau a gweithgareddau ar gyfer clwb gofal seibiant dementia Ceredigion ac cyfrannu at gostau rhedeg clwb cymdeithasol dementia ‘Forget Me Knot’ yn Aberaeron.

Alun Williams yw'r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am wasanaethau oedolion. Dywedodd, "Rwyf wrth fy modd bod y gwaith rhwng cartref gofal preswyl Bryntirion a'r Ymddiriedolaeth wedi bod yn mynd mor dda. Fel Cyngor rydym yn hoffi cydweithio gyda phob math o sefydliadau lleol er mwyn darparu'r gwasanaethau gorau posib i'n trigolion.”

Os oes gennych syniad am brosiect a allai fod o fudd i bobl sydd â diagnosis o ddementia yng Ngheredigion, cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Margaret ac Alick Potter i drafod y posibilrwydd o dderbyn grant trwy gysylltu â Joan Miller ar joan.miller4@virgin.net neu 07794 674339.

 

14/06/2019