Ar 10 Gorffennaf, yng nghynhadledd flynyddol Diogelwch Ffyrdd Cymru, dyfarnwyd gwobr Diogelwch Ffyrdd Cymru i Dawn Davies am ei gwasanaeth maith a'i hymroddiad fel Swyddog Hebryngwr Croesfannau Ysgol yn Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant am fwy na thair blynedd ar ddeg.

Enwebwyd Dawn Davies gan ei chydweithwyr yn y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd ar gyfer y wobr hon. Erbyn hyn, mae Dawn wedi rhoi’r gorau i’w swydd er mwyn dechrau pennod newydd yn ei bywyd.

Dywedodd Kayleigh Tonkins, aelod o Dîm Diogelwch ar y Ffyrdd, "Diolch yn fawr i Dawn gan ei holl gydweithwyr yn y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda hi a bydd y cyn ddisgyblion a’r disgyblion presennol yn gweld ei heisiau’n fawr. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth fach yn unig o’i gwaith caled a'i hymroddiad i sicrhau diogelwch disgyblion Ysgol Padarn Sant, boed law neu hindda.”

Mae'r swydd wag ar gyfer Swyddog Hebryngwr Croesfannau Ysgol yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd. Gellir gweld holl swyddi gwag y Cyngor yn adran Swyddi a Gyrfaoedd gwefan y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, aelod Cabinet Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, "Da iawn i Dawn ar y cyflawniad gwych hwn ac am ei hymrwymiad cadarn dros y blynyddoedd wrth sicrhau bod disgyblion Padarn Sant yn croesi'r ffordd yn ddiogel. Mae Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i sicrhau bod oedolion a phlant yn ddiogel ar y ffyrdd. Maent yn gwneud hyn drwy ddarparu nifer o gyrsiau a chynlluniau fel Kerbcraft, cwrs ar gyfer Gyrwyr Hŷn a Biker Down trwy gydol y flwyddyn. Mae'r tîm ar gael hefyd i helpu sicrhau bod seddi car eich plant wedi’u gosod yn iawn."

Roedd Kayleigh Tonkins, Swyddog Diogelwch y Ffyrdd, Cyngor Sir Ceredigion hefyd yn bresennol yn y gynhadledd i sôn am lwyddiant y cwrs ar gyfer Gyrwyr Hŷn a ddarperir i yrwyr 65 oed a hŷn am ddim, diolch i arian grant gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i bobl ddysgu drwy arbenigedd pobl broffesiynol brofiadol ym maes Diogelwch y Ffyrdd a Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy, ac mae pob taith mewn car wedi'i theilwra i fodloni anghenion yr unigolyn. Mae’r cwrs yn anelu at wella’r sgiliau a’r wybodaeth sydd gan yrwyr wrth gyflwyno syniadau o ran ymdrin â sefyllfaoedd llawn straen a chynllunio ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau bod gyrwyr hŷn yn dal i yrru’n ddiogel am gyfnod hirach o amser.

Does dim angen i gyfranogwyr ddod â char i’r sesiwn gan y bydd yr hyfforddwyr yn darparu car.

Cysylltwch â Kayleigh Tonkins, Swyddog Prosiect Diogelwch y Ffyrdd drwy ffonio 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk am fwy o wybodaeth ac er mwyn cadw lle ar y cwrs.

05/08/2019