Ar 6 Rhagfyr, cynhaliodd Amgueddfa Ceredigion lansiad adroddiad newydd. Mae Adroddiad y Prosiect Amgueddfa Hapus, ‘Amgueddfeydd Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ yn tynnu sylw at y sawl ffordd y mae amgueddfeydd yng Nghymru yn ymateb i amcanion y Ddeddf.

Gan ganolbwyntio ar waith chwe amgueddfa yng Nghymru, mae'r adroddiad yn dangos y cyfraniad arwyddocaol y gall amgueddfeydd ei wneud trwy gyfrwng enghreifftiau o arfer presennol neu arfer a welwyd yn ddiweddar. Mae hefyd yn manylu ymdrechion yr amgueddfeydd i ddatblygu prosiectau sy'n ymateb i'r nodau Llesiant yn benodol.

Dywedodd Curadur Amgueddfa Ceredigion, Carrie Canham, “Mae’n fraint lansio dogfen sydd mor bwysig i amgueddfeydd Cymru yn Amgueddfa Ceredigion. Mae Amgueddfa Ceredigion wedi bod yn bartner Prosiect Amgueddfa Hapus am rhai blynyddoedd erbyn hyn. Maent wedi ein cefnogi i ddarparu prosiectau sydd wedi cael effaith bositif am fywydau pobl leol, felly mae’n wych i roi hynny yng nghyd-destun arloesol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Mae adroddiad yn dangos sut ydyn ni, ac amgueddfeydd arall yng Nghymru, ar flaen y gad wrth ymateb i’r Ddeddf a faint sydd gennym i gyfrannu at les y genedl.”

Datblygwyd yr adroddiad trwy gyfrwng partneriaeth rhwng Amgueddfa Hapus ac Amgueddfa Ceredigion, Amgueddfeydd Sir Fynwy, Amgueddfa Stori Caerdydd, Oriel Môn, Storiel ac Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cefnogwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru trwy gyfrwng grant cymorth achredu gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.

Dywedodd Cyfarwyddwr Prosiect Amgueddfa Hapus, Hilary Jennings, “Mae Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru yn ddarn rhagorol o ddeddfwriaeth ac mae amgueddfeydd ar draws Cymru yn ymateb i'w saith nod. Mawr obeithiwn y bydd gwaith yr amgueddfeydd hyn o Gymru yn ysbrydoliaeth i botensial amgueddfeydd ar draws y byd i weithio i gynorthwyo lles pobl, lleoedd a'r blaned.”

Mae prosiect Amgueddfa Hapus yn ysgogi a chynorthwyo gweithgarwch amgueddfeydd sy'n rhoi lles o fewn ffrâm amgylcheddol ac sy'n ystyried y dyfodol. Mae’n ailystyried y rôl y gall amgueddfeydd ei gyflawni wrth greu pobl, lleoedd a phlaned sy'n fwy cydnerth.

Bu'r chwe amgueddfa yn gweithio gydag Amgueddfa Hapus dros gyfnod o chwe mis, er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth o'u rhwymedigaethau dan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol. Fe wnaethant hefyd adolygu'r ffyrdd yr oeddent eisoes yn ymateb i'r nodau, yn cynllunio gweithgareddau newydd ac ymgorffori ffyrdd o weithio y bydd yn gwella sut y maent yn cwrdd ag amcanion y Ddeddf.

Mae'r adroddiad newydd yn dwyn ynghyd yr hyn a ddysgwyd fel adnodd ac ysbrydoliaeth i amgueddfeydd ar draws Cymru - ac er mwyn eu helpu i ddangos eu hymateb wrth iddynt geisio bodloni nodau'r Ddeddf. Gellir lawr lwytho’r adroddiad yn Gymraeg o: http://happymuseumproject.org/museums-help-to-shape-the-future-of-wales/ (Gwefan Saesneg yn unig).

 

13/12/2018