Cymeradwywyd strwythur cyflog newydd ar gyfer uwch-swyddogion, sydd ddim yn cynnwys y Prif Weithredwr, yng Nghyngor Sir Ceredigion mewn cyfarfod o'r cyngor ar 23 Ionawr 2019. Cyflwynwyd y strwythur tâl newydd i adlewyrchu dyletswyddau newydd ar ôl ailstrwythuro gweithlu'r cyngor.

Mae'r strwythur cyflog newydd yn cymhathu uwch swyddogion â'r raddfa gyflog fwyaf priodol gan eu bod yn ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau. Er gwaethaf y newidiadau hyn, mae'r strwythur cyflogau newydd wedi gwneud arbedion cyflog o £241,000 o gymharu â chostau staff uwch ym mis Hydref 2016.

Er bod yr arbedion yn sylweddol, prif nod strwythur newydd yr uwch swyddogion yw sicrhau bod digon o gapasiti a gallu swyddogion i fodloni blaenoriaethau presennol y cyngor a'i flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Mae'r ad-drefnu wedi arwain at leihad pellach mewn rolau uwch swyddogion.

Penodwyd arbenigwr annibynnol i gynnal gwerthusiadau rôl o'r swyddi uwch er mwyn sicrhau bod cyfrifoldebau wedi'u diffinio'n glir. Mae'r gwerthusiadau yn sicrhau bod y rolau a'r swyddogaethau yn cael eu rhannu'n gyfartal rhwng pob swydd a bod staff yn cael eu talu ar lefel briodol. Arweiniodd arfarniadau rôl yr arbenigwr annibynnol at gynnydd mewn cyflog ar gyfer tri uwch swyddog. Cymeradwywyd y strwythur tâl newydd gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y cyngor a'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Bobl a Threfnidiaeth, y Cynghorydd Ray Quant MBE, "Mae gennym grŵp talentog ac ymroddgar o staff yn y cyngor, gan gynnwys uwch swyddogion. Mae ond yn briodol ein bod yn cael y strwythur cyflogau ar gyfer cyfrifoldebau unigol wedi'u gosod yn briodol."

“Mae'r broses o osod strwythur cyflog newydd wedi bod yn gwbl annibynnol. Penodwyd arbenigwr annibynnol i gyflawni'r gwerthusiadau rôl, a chymeradwywyd canfyddiadau'r gwerthusiad gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol.”

24/01/2019