Bydd Strategaeth Toiledau Cyhoeddus newydd Ceredigion yn canolbwyntio ar wneud toiledau cyhoeddus yng Ngheredigion yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac yn hygyrch i’w defnyddio.

Mae’r strategaeth yn rhoi fframwaith 10 mlynedd ar gyfer darparu toiledau cyhoeddus yn y sir. Fe’i cymeradwywyd gan Gabinet Cyngor Sir Ceredigion ar 30 Gorffennaf 2019.

O dan y strategaeth, caiff toiledau cyhoeddus eu gwneud yn ariannol ac yn amgylcheddol gynaliadwy. Yn dilyn blynyddoedd o doriadau i gyllidebau cynghorau ledled y DU, bydd rhai toiledau cyhoeddus bellach yn codi tâl ar bobl i’w defnyddio. Bydd hyn yn darparu’r incwm sydd ei angen i wneud yn siŵr bod gan bobl doiledau cyhoeddus ar draws y sir.

Nod y strategaeth yw gwella ansawdd toiledau cyhoeddus a’u gwneud mor hygyrch â phosibl i bobl ag anableddau a symudedd cyfyngedig.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am yr economi ac adfywio. Dywedodd, “Y gwir amdani yw ei bod yn mynd yn galetach i’r cyngor gadw toiledau cyhoeddus ar agor. Mae toriadau i gyllidebau am flynyddoedd yn golygu bod yn rhaid i ni edrych ar wahanol ffyrdd o wneud pethau. Bydd y strategaeth yn sicrhau bod toiledau cyhoeddus yn aros yn y cymunedau sydd eu hangen ac y gall pobl sydd ag anghenion gwahanol eu defnyddio’n hawdd.

Mae penderfyniad y Cabinet yn cefnogi blaenoriaethau corfforaethol y cyngor o Fuddsoddi yn Nyfodol Pobl a Hyrwyddo Cydnerthedd Amgylcheddol a Chymunedol.

31/07/2019