Mae Strategaeth TGCh a Gwasanaethau Digidol pum mlynedd newydd sydd yn ymdrîn ag ystod o gyfleoedd a heriau sy’n wynebu Cyngor Sir Ceredigion wedi cael ei gymeradwyo.

Cymeradwywyd y strategaeth gan y Cabinet mewn cyfarfod ar 27 Mawrth 2018. Mae’r Strategaeth yn ymdrîn â materion megis trafodion digidol, sef i ba raddau y gall pobl ofyn am wasanaethau drwy wefan y Cyngor, a hefyd chynhwysiad digidol, sydd yn sicrhau y gall pobl a busnesau gael mynediad at wasanaethau digidol. Mae hefyd yn ymdrîn â data clyfar sef casglu’r data iawn mewn ffordd hygyrch, a’i ddefnyddio’n sail ar gyfer penderfyniadau doeth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros TGCh, y Cynghorydd Dafydd Edwards, “Mae llawer o wasanaethau Cyngor yn newid fel bod modd eu defnyddio yn hawdd ar-lein. Mae’r oes ddigidol yn cynnig cyfleoedd a heriau i’r Cyngor, ac mae’r Strategaeth TGCh a Gwasanaethau Digidol yn ein galluogi i reoli ein gwasanaethau TGCh yn hyderus.”

Bydd y cynnig yn rhoi sicrwydd o fedru darparu gwasanaethau yng Ngheredigion yn y dyfodol, gan fod y defnydd o dechnoleg newydd yn galluogi trigolion i ddefnyddio pa bynnag gyfrwng a ddymunant i gyfathrebu â’r Cyngor.

27/03/2018