Bydd gan Strategaeth Gaffael ar gyfer 2018-2022 ffocws cryf ar gefnogi a chryfhau’r economi leol wrth sicrhau budd i bobl a chymunedau Ceredigion.

Mae’r Strategaeth yn seiliedig ar bum maes blaenoriaeth allweddol o Gefnogi’r Economi Lleol, Cynnal Llywodraethu Cryf ac Effeithiol, Gwella Rheoli Contract a Nwyddau, Cryfhau Prosesau a Llywodraethu ac i Sicrhau bod Staff yn meddu ar sgiliau ac adnoddau digonol. Cytunwyd ar Strategaeth Gaffael newydd Cyngor Sir Ceredigion ar 19 Mehefin 2018.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cyllid a Chaffael, y Cynghorydd Gareth Lloyd, “Nid yn unig bod angen i’r Cyngor sicrhau ei fod yn defnyddio ei adnoddau cyfyngedig mor effeithiol â phosib, ond mae angen iddo hefyd sicrhau bod ei ymarferion caffael yn cefnogi’r economi leol. Mae’r Strategaeth Gaffael newydd ar gyfer 2018-2022 yn gwneud yn union hynny; mae’n bleser gen i fod y Cabinet wedi ei gytuno.”

Cafodd Strategaeth Gaffael 2018-2022 ei ddatblygu wrth edrych yn agos ar Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor yn ogystal â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Datblygwyd y Strategaeth newydd dros fisoedd olaf ei rhagflaenydd ar gyfer 2014-2018.

21/06/2018