Ar 4 Gorffennaf, ymunodd pum ysgol gynradd yn Ras yr Iaith. Gwisgodd blant o Ysgol Llanilar, Ysgol Plascrug Ysgol Llwyn yr Eos, Ysgol Padarn Sant a Ysgol Gymraeg eu hesgidiau rhedeg ac ymuno â Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered, i redeg cymal Aberystwyth y ras.

Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered, “Llongyfarchiadau i’r holl ysgolion a wnaeth redeg Ras yr Iaith eleni. Roedd yn wych i weld cynifer o bobl yn cymryd rhan.”

Pwrpas Ras yr Iaith yw codi proffil a hyder yr iaith Gymraeg, hyrwyddo iechyd corfforol a chryfhau cymunedau. Eleni, cynhaliwyd Ras yr Iaith dros dri diwrnod rhwng 4 a 6 Gorffennaf. Dechreuodd y ras yn Wrecsam, gan deithio trwy Gymru a gorffen yn Nghaerfili.

17/09/2018