Cafodd staff a dysgwyr Hyfforddiant Ceredigion hwyl wrth gymryd rhan ym More Coffi Macmillan, ar fore Gwener, 28 Medi. Daeth cyfanswm yr arian a gasglwyd i dros £160, a fydd yn mynd tuag at wasanaethau gofal a chymorth i bobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser.

Roedd staff Hyfforddiant Ceredigion, gyda help eu perthnasau, wedi rhoi o’u hamser i baratoi ystod flasus o gacennau a bisgedi i’w gwerthu ar y diwrnod. Roedd y staff a’r dysgwyr wedi manteisio ar y cyfle i gael saib o’u diwrnod prysur o ddysgu ac addysgu ar y cyrsiau hyfforddiant galwedigaethol a chael paned braf o de a choffi a danteithion cartref.

. Roedd Carys Randell, Ymgynghorydd Hyfforddiant Trin Gwallt yn Hyfforddiant Ceredigion, wrth ei bodd â’r digwyddiad, “Roedd y gefnogaeth gan staff Hyfforddiant Ceredigion a’u teuluoedd yn wych a’u hymdrechion nhw a sicrhaodd fod y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant!”

Mae Hyfforddiant Ceredigion yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol i bobl o bob oed, gan gynnwys: Trin Gwallt, Gofal Plant, Gweinyddu Busnes, Technoleg Gwybodaeth, Gwaith Saer, Gwaith Plymio, Gwaith Trydanol, Gwaith Gof, Amaeth, Mecaneg Moduron a Weldio.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Hyfforddiant Ceredigion ar Facebook: https://www.facebook.com/HyfforddiantCeredigion, neu ewch i’r wefan: http://www.ceredigion.gov.uk/public-it/hct/indexc.html

 

09/10/2018