Cynhaliwyd Eisteddfod gan Ganolfan Meugan a Chanolfan Steffan i’r defnyddwyr gwasanaeth ar 7 Mehefin yn Neuadd Felinfach.

Mae Canolfan Steffan yn ganolfan cymorth cymunedol i oedolion gydag anableddau dysgu tra bod Canolfan Meugan yn wasanaeth integredig.

Thema’r Eisteddfod oedd ‘Cymru, Blwyddyn y Môr’ a gwisgodd pawb mewn gwisg yn ymwneud â’r traeth. Roedd y cystadlaethau yn seiliedig ar waith celf a chrefft wedi’u creu yn ystod dosbarthiadau crefft, a oedd yn cynnwys cestyll tywod wedi’u creu o ddeunydd wedi’u hail-gylchu, collage wedi’u creu gydag eitemau o’r traeth a darluniau wedi’u addasu i gardiau post. Hefyd, roedd perfformiadau canu mewn grŵp, dawnsio yn ogystal â pherfformiadau unigolion. Cafodd sgons, wedi’u creu yn ystod dosbarth coginio, eu beirniadu ar eu blas a’u golwg.

Dywedodd Janet Broome, Gweithiwr Prosiect yng Nghanolfan Meugan, “Roedd e’n ffantastig i weld cymaint o ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr yn mynychu’r Eisteddfod. Hoffwn ganmol yr holl staff yng Nghanolfan Steffan a Chanolfan Meugan am eu gwaith caled i wneud yn siwr bod y diwrnod yn llwyddiant mawr. Diolch mawr i’r beirniad, Steffan Jenkins a Sara Morgans a wnaeth ddod i’r adwy munud olaf. Llongyfarchiadau i bawb yng Nghanolfan Meugan a wnaeth ennill y darian eleni.”

21/06/2018