Cafodd Osian Davies, disgybl o Ysgol Bro Teifi, ei ddewis i fod yn Lysgennad Ifanc Platinwm yng Ngheredigion ym mis Awst.

Nod rhaglen Llysgennad Ifanc, wedi’i ddarparu gan Ceredigion Actif, yw grymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i fod yn arweinyddion trwy chwaraeon ac i helpu eu cyfoedion i gymryd diddordeb mewn cadw’n heini.

Mae Osian yn un o 26 o bobl ifanc y cafodd eu dewis ar draws Cymru a fydd yn ymuno â’i gilydd i redeg rhaglen Llysgennad Ifanc ar draws y wlad. Osian yw’r trydydd person i fod yn Lysgennad Ifanc Platinwm yng Ngheredigion ers 2012.

Dywedodd Alwyn Davies, Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol, “Rydym yn falch iawn o Osian am gael ei ddewis fel Llysgennad Ifanc Platinwm a chynrychioli Ceredigion ar y Grŵp Llywio Cenedlaethol. Mae’n dangos ei ymroddiad i fenter Llysgennad Ifanc ac yn wobr i’w gyfraniad ef tuag at y rhaglen.”

Ym mis Medi 2017, cafodd Osian ei ddewis i fod yn Lysgennad Ifanc Arian ac aeth ymlaen i fynychu hyfforddiant gyda’r Tîm Pobl Ifanc Egnïol ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth. Trwy gwblhau’r hyfforddiant, roedd Osian yn gallu darparu rhaglen Criced i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 yn ystod ei amser cinio yn yr ysgol. Yn ogystal a hyn, helpodd Swyddog Datblygu Rygbi’r ysgol i ddarparu sesiynau rygbi ar gyfer amrywiaeth o oedrannau.

Ym mis Ionawr 2018, dyrchafwyd Osian i Lysgennad Ifanc Aur mewn cydnabyddiaeth o’i waith ar draws y sir. Yn dilyn hyn, dechreuodd Osian helpu yn y clwb chwaraeon ar ôl ysgol gan hyfforddi amrywiaeth o weithgareddau gwahanol yng Ngwyliau Chwaraeon Ysgolion Cynradd. Mae hefyd yn hyfforddi Tîm Rygbi Merched ‘Y Gwiberod’ yng Nghastell Newydd Emlyn. Gwobrwywyd Osian â’r acolád ‘Llysgennad Ifanc y Flwyddyn’ yn y Gwobrau Chwaraeon Ceredigion 2018 ym mis Gorffennaf.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Dysgu, “Da iawn Osian am y llwyddiant anhygoel yma. Mae gwaith caled ac ymroddiad Osian yn annog pobl ifanc i ddechrau a chymryd rhan mewn mwy o chwaraeon yn glodwiw ac yn ysbrydoliaeth i eraill. Ar ran Cyngor Sir Ceredigion, dymunaf pob lwc a llwyddiant i Osian yn y rôl barchus hon.”

Mae Osian wrthi’n paratoi ar gyfer cyflwyno ac arwain ar gyflwyniadau allweddol yn y gynhadledd Llysgennad Ifanc Aur a chynhelir yn Stadiwm Pêl-droed Caerdydd ar ddydd Gwener, 9 Tachwedd.

Am fwy o wybodaeth ar raglenni chwaraeon a ddarperir gan Ceredigion Actif, ewch i’w gwefan, www.ceredigionactif.org.uk.

 

10/09/2018