Bydd cyfle arbennig i bobl Tregaron ddysgu am un o ddiwydianwyr mwyaf llwyddiannus Cymru sef David Davies Llandinam gyda pherfformiad gan gwmni Mewn Cymeriad.

I ddathlu cysylltiad David Davies gyda’r ardal mae Cered: Menter Iaith Ceredigion, Cymdeithas Hanes Tregaron a Chlwb Plant Capel Bwlchgwynt wedi trefnu perfformiad o sioe deuluol “David Davies Llandinam”.

Cafodd David Davies ei eni yn Llandinam, Sir Drefaldwyn ond cafodd ddylanwad ar draws Cymru. Fe adeiladodd rheilffyrdd ar draws y wlad gan gynnwys Rheilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau a wnaeth gysylltu Tregaron gyda threfi Aberystwyth a Chaerfyrddin gan ddefnyddio swmp anferthol o wlân Sir Aberteifi i osod y cledrau dros Gors Caron.

Yn ogystal â bod yn entrepreneur hynod o lwyddiannus, roedd David Davies Llandinam yn Aelod Seneddol dros Sir Aberteifi rhwng 1874 i 1886. Gwyddoch chi, naw mlynedd ynghynt fe wnaeth Davies sefyll yn erbyn Henry Richard sef un o arwyr Tregaron ar gyfer bod yn ymgeisydd lleol y Blaid Rhyddfrydol ar gyfer Etholiad 1865.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Plant a Diwylliant, “Mae hanes David Davies Llandinam yn ddiddorol iawn. Mae’n wych gweld sefydliadau yn dod at ei gilydd i gynnal noson fel hon yn Nhregaron a bod Mewn Cymeriad yn dilyn y stori.”

Mae Mewn Cymeriad yn gwmni drama sydd yn teithio Cymru i gyflwyno sioeau un actor llawn hwyl a chyffro am gymeriadau hanesyddol y wlad gan gynnwys Barti Ddu, yr Arglwydd Rhys, Hedd Wyn ac Owain Glyndŵr. Ysgrifennwyd sioe David Davies gan Eleri Twynog Davies, sefydlydd Mewn Cymeriad a chaiff y sioe ei pherfformio gan yr actor adnabyddus Ioan Hefin sydd wedi serennu mewn rhaglenni fel Craith, Gwaith Cartref a Teulu.

Bydd y sioe am ddim David Davies Llandinam yn Festri Bwlchgwynt, Tregaron am 7y.h ar nos Lun, 29 Hydref. Dewch i weld yr actor Ioan Hefin yn cyflwyno sioe fywiog a rhyngweithiol am y dyn a ddaeth â'r trên i Dregaron. Mae’r sioe rhyngweithiol wedi ei hanelu at blant 6 i 11 oed ond mae’n addas ar gyfer y teulu cyfan.

Am wybodaeth pellach cysylltwch â Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol gyda Cered ar 01545 572 350.

17/10/2018