Cynhaliwyd Noson Wobrwyo Gwirfoddolwyr Cered: Menter Iaith Ceredigion ar 17 Mai yn Theatr Felinfach. Fe wnaeth y noson gydnabod ymdrechion y bobl ifanc sydd wedi bod yn gwirfoddoli gyda Cered dros y flwyddyn ddiwethaf.

Gwestai gwadd y noson oedd Ben Lake AS a’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Fe wnaeth y ddau anerchiad byr cyn cyflwyno cyfres o dystysgrifau, gan gynnwys tystysgrifau cynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Ar ddiwedd y seremoni cyflwynodd Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cyngor Sir Ceredigion air o ddiolch i’r gwirfoddolwyr a’u teuluoedd ac i staff Cered am eu gwaith.

Dywedodd Ben Lake AS: “Roedd yn bleser cael cymryd rhan yn seremoni wobrwyo Cered a Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn ddiweddar. A braint arbennig oedd cael cyfarfod a llongyfarch y gwirfoddolwyr ifanc sydd wedi chwarae rhan mor bwysig ym mywyd a gweithgarwch eu cymdogaethau lleol dros y misoedd diwethaf. Mae annog pobl ifanc i gyfrannu at weithgareddau cymunedol a gwaith gwirfoddol lleol, drwy gyfrwng y Gymraeg, yn eithriadol o bwysig. Mae’n caniatáu iddyn nhw ddatblygu eu potensial, dysgu sgiliau newydd a wynebu heriau fydd yn eu paratoi ar gyfer bod yn arweinwyr cymunedol hyderus yn y dyfodol.”

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Roedd yn bleser o’r mwyaf i gael cyflwyno tystysgrifau i bobl ifanc Ceredigion i gydnabod eu gwaith caled a’u holl lwyddiannau a chyflawniadau wrth gwirfoddoli drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ystod eang o ddigwyddiadau, sioeau a phrosiectau.”

Dywedodd Non Davies, Rheolwr Cered: “Mae gweld cymaint o bobl ifanc yn barod i wirfoddoli yn eu cymunedau yn galonogol iawn. Mae’r cynllun gwirfoddoli nid yn unig yn cynnig cymorth ymarferol i Cered a sefydliadau a chymdeithasau eraill yn y sir ond mae’r cynllun hefyd yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddysgu amrywiaeth o sgiliau bywyd a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Cered yn awyddus i adeiladu ar lwyddiant y cynllun er mwyn sicrhau cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg yr ardal i’r dyfodol.”

Mae cyfanswm o 38 o bobl ifanc wedi bod yn gwirfoddoli i Cered dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae Cered yn bwriadu cynyddu nifer eu gwirfoddolwyr dros y flwyddyn nesaf. Am fwy o wybodaeth am wirfoddoli gyda Cered cysylltwch â cered@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch swyddfa Cered ar 01545 572350.

31/05/2019