Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn arwain grŵp sydd wedi ymrwymo i weithredu ar ffosffadau yn afon Teifi.

Mae afon Teifi wedi’i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), wedi’i gwarchod o ganlyniad i’w harwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol o ran bywyd gwyllt.

Mae’r afon yn gartref i ddyfrgwn, bawd y melinydd (pysgodyn dŵr croyw bach), eogiaid yr Iwerydd, lamprai’r nant a lamprai’r afon (pysgod cyntefig, tebyg i lyswennod). Ond mae ansawdd dŵr yn peryglu’r rhywogaethau hyn, gan fod gormod o ffosfforws yn dinistrio’r ecosystem werthfawr.

Mae ffosffadau’n mynd i mewn i ddyfrffyrdd drwy wastraff dynol ac anifeiliaid, dŵr golchi dillad, deunydd glanhau, cemegion diwydiannol, a gwrtaith mewn dŵr ffo. Maent yn achosi twf ffrwydrol mewn planhigion dyfrol ac algâu a all arwain at lefelau ocsigen isel, gan fygu’r afon a’r bywyd sy’n ei galw’n gartref iddynt.

O’r 107 o gyrff dŵr a aseswyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, dim ond 39% a basiodd y targedau ffosfforws newydd, a methodd 61%. Roedd y rhan fwyaf o’r cyrff dŵr a fethodd yn y canolbarth a’r de. Mae hyn yn cynnwys afon Teifi, a oedd â chyfradd fethiant o 50%.  

Mae’n rhaid cymryd camau ar frys, ac ar raddfa fawr, ac felly mae Cynghorau Sir Penfro, Ceredigion a Sir Gâr wedi cydweithio i sefydlu a rheoli Byrddau Rheoli Maetholion i fonitro Cleddau, Teifi a Thywi. Byddant yn cydweithio’n agos i gyflawni’r camau gweithredu sydd eu hangen ar gyfer yr afonydd.

Mae’r byrddau’n cynnwys yr awdurdodau lleol a’r Parciau Cenedlaethol y mae’r afonydd yn mynd drwyddynt. Eu rôl yw nodi a chyflwyno Cynllun Rheoli Maetholion a chamau gweithredu i gyflawni’r targedau cadwraeth a ddiffinnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tri bwrdd ar 17 Mawrth 2022.

Bydd pob bwrdd yn nodi amserlen, a bydd cyfrifoldeb ac atebolrwydd am gamau gweithredu mesuradwy yn cael eu neilltuo i aelodau’r bwrdd. Bydd y cynllun cyflawni yn cynnwys manylion gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys dulliau o gynnwys y gymuned, er mwyn hyrwyddo amcanion y cynllun.

Bydd y byrddau’n cael eu cefnogi gan fewnbwn gan grŵp technegol a grŵp rhanddeiliaid i helpu i lywio eu penderfyniadau. Mae aelodaeth y grwpiau hyn yn agored i sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb mewn adfer iechyd afonydd.

Y gobaith yw y bydd dod â chwaraewyr allweddol ar hyd yr afon at ei gilydd i ymrwymo i weithredu yn troi’r llanw ac yn adfer iechyd yr afon a’r bywyd oddi mewn iddi.

  • Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r grŵp technegol neu’r grŵp rhanddeiliaid, a chynrychioli grŵp rhanddeiliaid perthnasol, cysylltwch ag ldp@Ceredigion.gov.uk

17/03/2022