Cynhaliwyd digwyddiad ‘Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau’ yn Y Bandstand yn Aberystwyth ar 27 Medi, lle cafodd trigolion Ceredigion y siawns i ddysgu mwy am sut y gallant ddiogelu eu hunan yn erbyn sgamiau.

Cafodd Cyngor Sir Ceredigion eu cyflwyno gyda thystysgrif i gydnabod bod y Cyngor nawr yn sefydliad Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd, “Mae’n ardderchog bod Cyngor Sir Ceredigion wedi cael ei gydnabod fel sefydliad Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau ac wedi gallu dod i gefnogi’r Tîm Safonau Masnach Genedlaethol yn y digwyddiad yn Aberystwyth, i helpu daclo’r mater yma’n lleol. Yn aml, mae sgamiau drwy’r post, dros y ffôn ac ar garreg y drws wedi’u hanelu’n benodol at gwsmeriaid difreintiedig neu’r rheini sy’n profi cyfnodau bregus. Does dim rheswm i bobl fod a chywiliydd os eu bod wedi eu heffeithio gan sgamio. Y peth pwysig i wneud yw siarad â rhywun, adrodd y mater a chael yr help a’r cyngor cywir.”

Ymunod y Cyngor â Thîm Safonau Masnach Cenedlaethol a Phartneriaeth yn Erbyn Sgamiau Cymru i ddarparu gwybodaeth a chyngor i drigolion ochr yn ochr â cynrhychiolwyr o Natwest a Heddlu Dyfed-Powys.

Dywedodd Lousie Baxter, Rheolwr Tîm y Safonau Masnach Cenedlaethol, “Mae’n ffantastig i gael sefydliad i’n helpu ni i daclo'r broblem yma ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Byddwn i’n annog pawb sydd â diddordeb mewn dangos eu cefnogaeth i ymuno a’r ymgyrch ac i fod yn rhan o’r rhwydwaith i gynyddu Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau.”

I adrodd am sgam neu ddigwyddiad amheus, cysylltwch â Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ewch i’r wefan https://www.actionfraud.police.uk/report-fraud/cymraeg

 

28/09/2018