Caiff safle’r cyn Ysgol Dyffryn Teifi yn Llandysul ei osod ar werth ar y farchnad agored mewn tri darn o dir.

Mae’r datblygiad yma yn dilyn penderfyniad Cabinet ar 27 Mawrth 2018. Mewn rhannu’r safle i dri darn, mae’r Cabinet yn gobeithio manteisio ar ddiddordeb sydd eisoes yn hysbys o sefydliadau arall a’r sector breifat.

Roedd y safle eisoes wedi ei osod ar werth ar y farchnad agored ac er diddordeb gan grŵp lleol – Plant y Dyffryn – ni werthwyd yr eiddo. Cafodd Plant y Dyffryn amser i ddatblygu cynllun busnes ac i godi’r arian i brynu’r safle ond roedd eu cais am arian yn aflwyddiannus. Fe glywodd Grŵp Datblygu’r Cyngor ym mis Tachwedd 2017 bod diddordeb Plant y Dyffryn yn y safle yn parhau, fodd bynnag, nid oedd ganddynt yr arian i dalu amdano. Clywyd gan y grŵp hefyd y dangoswyd budd masnachol mewn darnau o’r safle ond nid y safle cyfan.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddatblygu Economaidd a Datblygu Cymunedol, “Roedd Ysgol Dyffryn Teifi yn ganolbwynt i Landysul a’r ardal ehangach am amser hir. Mewn penderfynnu rhannu’r safle mewn i dri darn, dw i’n gobeithio y gellir eu gwerthu a gall y safle unwaith eto fod yn ganolbwynt i’r gymuned leol a chefnogi busnesau lleol.”

Penderfynodd y Cabinet hefyd os bydd y darnau’n methu gwerthu ar ôl eu marchnata am gyfnod rhesymol, bydd angen i’r Cyngor ystyried dymchwel neu symud rhai o’r adeiladau ar y safle er mwyn lliniaru costau ond hefyd i ystyried buddsoddi mewn ailwampio pwrpas y safle gyda rhanddeiliaid lleol.

Caiff y safle ei osod ar werth ar y farchnad agored yn gyfan hefyd; bydd ystyriaeth yn cael ei roi i brynwyr sydd eisiau prynu’r safle lawn neu israniad pellach o’r darnau o dir yn dilyn trafodaethau llwyddiannus.

27/03/2018