Bydd Safle Gwastraff Rhydeinon yn parhau i fod ar agor am dri diwrnod yr wythnos yn dilyn penderfyniad Cabinet ac ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd yr oriau agor newydd yn golygu y bydd y safle ar agor i’r cyhoedd ar ddydd Mercher, a bydd ar agor am oriau ychwanegol ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Gwnaethpwyd y penderfyniad yn dilyn canfyddiad yr ymgynghoriad cyhoeddus y byddai 93% o bobl yn defnyddio safle Rhydeinon os byddai’r oriau agor yn cael eu lleihau.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu pedwar Safle Gwastraff Cartref. Un o’r rhain yw safle Rhydeinon ger Llanarth. Mae'r Safle Gwastraff Cartref ger Aberystwyth yn gwasanaethu Gogledd y sir ac mae'r safle ger Aberteifi yn gwasanaethu De'r sir. Mae Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon yn un o ddau safle sy’n gwasanaethu canol y sir.

Mewn cyfarfod ym mis Ebrill 2018, penderfynodd y Cabinet i estyn contract gweithredu Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon ar 30 Tachwedd, fel bod opsiynnau yn gall eu cael eu hystyried ar gyfer dyfodol y safle. Gwnaethpwyd y penderfyniad yng nghyd-destun tŵf mewn costau, a lleihad mewn grant Llywodraeth Cymru a’r angen i’r gwasanaeth wneud arbedion o £500,000 oherwydd pwysau ariannol ehangach i gyllidebau y Cyngor.

Dywedodd yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, y Cynghorydd Dafydd Edwards, “Mae angen i’r Cyngor cydbwyso’r balans anodd rhwng cynnal gwasanaeth o safon a gwerthfawr i drigolion gyda’r angen i reoli’r pwysau ariannol difrifol sydd wedi ei greu gan doriadau i gyllidebau y Cyngor yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r penderfyniad yma yn galluogi’r Cyngor i wneud arbedion ond yn cadw Rhydeinon ar agor. Mae hyn yn ein galluogi i edrych ar safleoedd gwastraff cartref yn gyffredinol yn ystod yr adolygiad o’r Strategaeth Rheoli Gwastraff.”

Bydd adolygiad o’r Strategaeth Rheoli Gwastraff yn dechrau yn hwyrach yn y flwyddyn a bydd yn edrych ar bob agwedd o wasanaethau rheoli gwastraff y Cyngor.

04/09/2018