Ar ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022, bydd Rory McLeod ynghyd â'i gerddor lleol Catrin O'Neill yn perfformio yn Amgueddfa Ceredigion.

Cerddor sydd wedi ei ddysgu ei hun yw Rory, cyn lyncwr tân a chlown mewn syrcas. Mae Rory wedi teithio’r byd am wahanol resymau ar wahanol adegau, o Asia i’r Dwyrain Canol, o Gambia i Giwba, America Ganol, Awstralia, Gogledd America, Canada Ewrop a llefydd eraill ym mhob cornel o’r byd. Mae Rory wedi bysgio yn nhalaith Yunnan yn Tsieina ac wedi dawnsio gyda cherddorion a chantorion o lwythi lleol, wedi chwerthin a chyfnewid cerddoriaeth a dawnsfeydd mewn parciau ac wedi denu cynulleidfaoedd niferus o bobl chwilfrydig. 

Mae Catrin O'Neill, sy'n edmygydd o waith Rory wrth ei bodd yn ei gefnogi. Mae Catrin wedi bod yn perfformio ar lwyfan er pan oedd yn ferch fach ac mae hi yn ei helfen o flaen cynulleidfa, gan greu awyrgylch wahanol wrth fynd o un gân i’r llall. Caneuon am y llawenydd neu’r tor calon a ddaw yn sgil cariad, hanesion am antur neu drasiedi neu gân yfed draddodiadol a swnllyd, mae gan Catrin bob math o ganeuon yn ei rhaglen. Dywedodd: “Yng nghwmni fy Nain, wrth eistedd wrth yr aga y dysgais lawer o'r caneuon rwy'n eu perfformio ar lwyfan heddiw."

Mae Sarah Morton, trefnydd y digwyddiad yn esbonio: “Ei hiwmor a’i gallu i adrodd hanes, gan dywys y gynulleidfa i lefydd yn y gorffennol a’r presennol, dyna sy’n ei gwneud hi’n wahanol i gantorion gwerin eraill.”

Mae caneuon Rory McLeod yn gofiadwy, yn llawn teimlad, yn foliannus, yn sylwgar, yn dreiddgar, yn ddoniol ac yn angerddol. Maent am bob math o bobl – cymeriadau lliwgar, ffrindiau ysgol, teulu ac mae’r caneuon yn trafod gwahanu, teithio, cariad, anobaith a gwleidyddiaeth. Dywedodd gohebydd y papur newydd St. Louis Post-Dispatch, fod Rory McLeod yn “huawdl wrth fynegi syniadau a osodwyd i gerddoriaeth soniarus a deinamig gyda rhythmau llawn asbri, cytganau bachog ac alawon campus” a nododd gohebydd y Toronto Star ei fod yn “cael ei ddylanwadu gan gerddoriaeth o bob math – Lladin, Klezmer, cerddoriaeth werin a cherddoriaeth ‘roots’. Mae ei gerddoriaeth yn arbennig o rythmig a thelynegol.”  

Mae Rory yn esbonio: “Rwyf wedi teithio i edrych am waith, i ddod o hyd i gysur yn dilyn tor calon, i fod gyda rhywun yr oeddwn yn hiraethu amdani. Roeddwn yn teithio i ymweld â ffrindiau ac ar y ffordd roeddwn yn gwneud ffrindiau newydd. Roeddwn yn crwydro oherwydd fy mod yn llawn cywreinrwydd ac am weld beth oedd y tu hwnt i’r tro nesaf ar y ffordd. Weithiau roeddwn yn teithio er mwyn dod o hyd i well tywydd a chwilio am fwy o wres yr haul a mudo .... fel yr adar a’r morfilod a’r pysgod. Rwyf am i’m caneuon gadw atgofion yn fyw. Rwy’n ceisio adodd hanes o safbwynt y dosbarth gweithiol."

Dywedodd Sarah Morton, trefnydd y digwyddiad: “Yn ei alawon gallwch glywed elfennau o bob math o gerddoriaeth – mae yma rhythmau fflamenco, rhumba, blues, cerddoriaeth Geltaidd a chalypso, Waltz a cherddoriaeth Polka hyd yn oed. Mae pob cân yn wahanol iawn i’r gân nesaf, ond mae ei arddull unigryw ef hefyd i’w glywed ym mhob cân.” 

Bydd Rory a Catrin O'Neill yn perfformio yn Amgueddfa Ceredigion ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022 am 7:30pm. Mae tocynnau i weld y sioe yn £12 am rhai cynnar neu £13.50 wrth y drws a gellir eu prynu drwy ffonio Amgueddfa Ceredigion ar 01970 633 088 neu ar- lein yma: amgueddfaceredigion.cloudtickets.online/category/1002/2022-01-01/to/2022-12-31

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei ariannu gan gynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru.

28/06/2022