Mae rhieni yng Ngheredigion wedi arbed £350 ar gyfartaledd y mis ar gostau gofal plant yn dilyn cyflwyniad y Cynnig Gofal Plant ym mis Medi 2018.

Gall rhieni a gwarchodwyr i blant tair a phedair blwydd oed sy’n byw yng Ngheredigion fod yn gymwys am y cynnig os ydynt yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, neu oriau sy’n gyfatebol â hynny. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr tymhorol a phobl hunangyflogedig.

Dywedodd yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, y Cynghorydd Catrin Miles, “Mae’n wych i weld bod y Cynnig Gofal Plant yn cael cymaint o effaith yn y misoedd cyntaf. Dim ond cynyddu y bydd yr arbedion yma wrth i fwy o rieni gofrestru am y cynllun. Bydd hyn yn cael effaith positif go-iawn ar fywydau nifer o rieni. Dw i’n annog unrhyw un sy’n meddwl eu bod yn gymwys i ffeindio mas.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rheoli’r cynllun yn y sir, a bydd hefyd yn rheoli’r cynllun mewn siroedd cyfagos wrth i’r cynllun ledu yn ystod 2019. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r Cynnig Gofal Plant.

Mae rhieni a gwarchodwyr sydd eisiau gweld os ydynt yn gymwys yn gallu mynd i dudalen Cynnig Gofal Plant ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/CynnigGofalPlant.

13/02/2019