Fe fydd Ras Yr Iaith 2018 yn cymryd lle rhwng 4 a 6 Gorffennaf ac fe fydd cymal olaf y diwrnod cyntaf yn cymryd lle yn Aberystwyth am 6y.h. gyda llwybr 2.7km o hyd o gwmpas canol y dref a’r Promenâd.

Mae’r Ras wedi ei seilio ar ras y Korrika a ddechreuodd yng Ngwlad y Basg, sydd wedi sbarduno rasys tebyg yn Llydaw (ar Redadeg) ac Iwerddon (an Rith). Sefydlwyd Ras yr Iaith yn 2014 ac fe gynhaliwyd yr ail Ras yn 2016 pan deithiwyd o Fangor i Landeilo. Eleni fe fydd y Ras yn mynd o Wrecsam i Gaerffili – y pellter hiraf eto.

Nid ras athletaidd a chystadleuol yw Ras yr Iaith ond ras dros yr Iaith Gymraeg gan bobl Cymru. Mae’n gyfle i dynnu siaradwyr Cymraeg rhugl, dysgwyr a phobl di-Gymraeg at ei gilydd er mwyn dathlu ein hiaith ni gyd.

Wrth i’r Ras deithio rhwng 15 cymuned eleni fe fydd Baton yr Iaith yn cael ei drosglwyddo er mwyn symboleiddio pwysigrwydd trosglwyddo’r Gymraeg o un cenhedlaeth i’r nesaf yn ogystal â lledu’r Gymraeg ar hyd a lled y wlad. Mae Ras yr Iaith felly yn gyfle i gysylltu cadarnleoedd y Gymraeg ac ardaloedd llai Cymraeg eu hiaith i godi proffil yr iaith fel iaith hyfyw ac egnïol.

Dywedodd Steffan Rees o Cered, Menter Iaith Cererdigon, sy’n un o gyd-drefnwyr cymal Aberystwyth, “Byddai’n wych gweld llinyn hir o redwyr yn gwibio o gwmpas tref Aberystwyth yn chwifio baneri ac yn canu dros yr Iaith Gymraeg. P’un ai os ydych yn ysgol, yn glwb chwaraeon neu yn griw o ffrindiau gwaith, ffurfiwch dîm a chofrestrwch i gymryd rhan yn Ras yr Iaith i gael llawer o hwyl, i gadw’n heini ac i ddathlu ein hiaith.”

Yn ogystal â dathlu’r iaith Gymraeg ar draws Cymru, un o brif amcanion Ras yr Iaith yw codi arian er mwyn helpu sefydliadau i gychwyn prosiectau newydd ar lawr gwlad i hybu’r iaith. Yn 2016 fe godwyd £14,000 ac fe wnaeth 45 o sefydliadau ar hyd llwybr y Ras dderbyn grant o hyd at £750. Bydd modd unwaith eto eleni i sefydliadau lleol fynd amdani a gwneud cais i ddechrau prosiect i hybu’r Gymraeg yn eu milltir sgwâr.

Er mwyn codi arian, mae Ras yr Iaith yn rhoi’r cyfle i fusnesau a sefydliadau lleol i noddi eu cymal lleol am gyfraniad o £50. Bydd enw’r sefydliad neu enwau’r unigolion yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, yn cael ei gynnwys ar wefan Ras yr Iaith, eu nodi ar blacardiau yng nghanol Aberystwyth ac yn cael eu cyhoeddi gan Dewi Pws sef tywysydd y Ras ar ddiwrnod un.

“Mae’n amser i garedigion y Gymraeg ddod at ei gilydd, a dangos ychydig o hwyl dros yr iaith. Bydd Ras yr Iaith yn ffordd gwych i dynnu pobl at ei gilydd a dathlu ein bod ni yma o hyd!” meddai Siôn Jobbins, sefydlydd Ras yr Iaith wedi iddo ymweld â’r rasys llwyddiannus hynny dros y Llydaweg, y Wyddeleg a’r Fasgeg.

Yn ogystal â’r Ras ei hun, fe fydd yna gerddoriaeth yn y Bandstand yn cychwyn am 5.00y.p. Band ukelele Y Pictôns o Ysgol Henry Richard fydd yn perfformio gyntaf cyn trosglwyddo’r awenau i’r côr meibion o ardal Ponterwyd, Meibion y Mynydd am 5.30 y.p. Ar ôl i’r Ras ddirwyn i ben fe fydd y canwr gwerin poblogaidd Gwilym Bowen Rhys yn diddanu, ac yn cloi’r noson mewn steil fydd Y Cledrau.

Trefnir cymal Aberystwyth ar y cyd gan bwyllgor o drigolion lleol a swyddogion Cered. Os oes diddordeb gennych gymryd rhan yn y Ras cysylltwch gyda Steffan Rees neu Rhodri Francis o Cered ar 01545 572 350 / 01970 633 854 neu cered@ceredigion.gov.uk.

26/06/2018