Mae arolwg wedi’i lansio i gasglu barn ar y Parthau Diogel mewn pedair tref yng Ngheredigion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ceisio creu trefi diogel a chroesawgar i bobl ddod i siopa a mwynhau, gan alluogi siopau, caffis, a bwytai i ailagor a galluogi pobl i gynnal gofynion cadw pellter cymdeithasol. Cyflwynwyd parthau diogel yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd.

Mae rhai ffyrdd wedi bod ar gau i draffig a gofynnwyd i ymwelwyr ddefnyddio’r meysydd parcio am ddim. Mae’r parthau diogel yn weithredol rhwng 11am a 6pm bob dydd, gyda rhai eithriadau, er mwyn creu gofod i bobl ddefnyddio canol y trefi’n ddiogel.

Caiff y ffyrdd eu cau i hwyluso’r broses o greu parthau diogel am gyfnod o 21 diwrnod, gyda’r opsiwn o ymestyn hyn am 21 diwrnod arall. Daw’r cyfnod cyntaf o 21 diwrnod i ben am hanner nos ddydd Sul, 2 Awst 2020. Mae’r Cyngor yn bwriadu cyflwyno ail gyfnod o 21 diwrnod lle bydd y ffyrdd ar gau er mwyn caniatáu i’r parthau diogel fod ar waith tan hanner nos, 23 Awst 2020.

Drwy gydol y cyfnod hwn, bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda busnesau ac yn gwrando ar ddefnyddwyr er mwyn chwilio am ffyrdd o wella’r modd y gweithredir y parthau diogel i ddefnyddwyr a busnesau. Bydd Iechyd y Cyhoedd yn parhau i fod yn ffactor allweddol yn ein penderfyniadau yn ystod y cyfnod hwn.

Yn seiliedig ar ein hadolygiad parhaus o’r holl ddata perthnasol, gan gynnwys iechyd y cyhoedd, y nifer o ymwelwyr a ragwelir a’r nifer gwirioneddol, ein bwriad yw gwneud cais am orchymyn traffig newydd. Bydd hyn yn caniatáu i ffyrdd gael eu cau am gyfnod o 18 mis o 24 Awst 2020. Fodd bynnag, y farn yw y bydd angen i’r parthau diogel fod ar waith tan ganol neu ddiwedd mis Hydref.

Mae’r Cyngor yn awyddus i glywed barn trigolion, busnesau ac ymwelwyr wrth i’r parthau diogel barhau i gael eu gweithredu. Bydd y safbwyntiau yn cael eu hystyried wrth i’r Cyngor adolygu’r ffordd y gweithredir y parthau diogel yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mynegwch eich barn erbyn 10 Awst 2020: Ymgynghoriad y Parthau Diogel

Bydd ymarfer ymgynghori ac ymgysylltu ehangach yn cael ei lansio yn yr hydref. Bydd hyn yn adolygu effaith y parthau diogel ac yn ystyried safbwyntiau ynghylch cyflwyno parthau diogel mewn trefi yn y dyfodol.

31/07/2020