Mae rhaglen datblygiad personol a chymdeithasol newydd ar gyfer pobl ifanc wedi cael ei lansio yng Ngheredigion gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion. Mae Inspire yn rhaglen 12 wythnos ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed.

Mae'r rhaglen yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc fanteisio ar ddarpariaeth wythnosol gwaith ieuenctid a chymorth proffesiynol, i'w helpu i gyrraedd eu nodau yn y dyfodol. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys gweithdai adeiladu tîm, cyrsiau blasu galwedigaethol gyda Hyfforddiant Ceredigion a Dysgu Bro, gweithdy creadigrwydd gydag Amgueddfa Ceredigion, profiad Ymweliad Môr a llawer mwy.

Bydd y bobl ifanc yn gweithio tuag at ennill Gwobr Lefel 1 Agored Cymru mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Byddent yn cael y cyfle i symud ymlaen tuag at Dystysgrif Lefel 1, sy'n gyfwerth â gradd TGAU D-G.

Fel rhan o'r rhaglen, fe gymerodd pedwar person ifanc ran yn ddiweddar mewn profiad Ymweliad Môr gyda Her Cymru, elusen o Gaerdydd. Mae’r elusen yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ac oedolion profi ffyrdd newydd o ddysgu a datblygu eu medrau rhyngbersonol. Roedd y pedwar person ifanc yn helpu i lywio'r sgwnêr 60 troedfedd o Bwllheli i Neyland dros gyfnod o 2 ddiwrnod. Fe wnaethant ddatblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol trwy weithio fel rhan o dîm a phrofi'r gwaith sydd ei angen i hwylio ar y môr.

Mae'r rhaglen Inspire hefyd yn rhoi cyfle i'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan i gynllunio prosiect cymunedol eu hunain. Llwyddodd y gwasanaeth ieuenctid i ennill grant o £500 o dan arweiniad Ieuenctid gan CAVO. Bydd hwn yn cael i ddefnyddio i gefnogi'r bobl ifanc â chynllunio a chyflwyno’r prosiect. Bydd y bobl ifanc yn gweithio gyda'i gilydd am gyfnod o 6 wythnos i adnabod angen cymuned a defnyddio'r arian i gynllunio digwyddiad er budd y gymuned honno.

Dywedodd Prif Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Gethin Jones, "Mae'r rhaglen Inspire yn esiampl o ddarpariaeth Gwaith Ieuenctid cadarnhaol, gan ei fod yn cael ei arwain gan y bobl ifanc ac mae'r ffocws ar eu datblygiad personol. Nod y rhaglen yw meithrin eu profiadau a'u sgiliau trwy eu cyflwyno i wahanol weithgareddau a chyrsiau blasu; ac yna eu cefnogi i ddatblygu eu prosiect cymunedol eu hunain, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau bywyd pwysig a hefyd i integreiddio â chymuned lle maent yn teimlo'n bwysig.”

Ar ddiwedd y rhaglen, bydd y bobl ifanc yn cael sesiynau un-i-un gyda Mentor Cymunedau am waith + a Gweithiwr Ieuenctid, i ganolbwyntio ar y cam nesaf a'r hyn sy'n ofynnol iddynt er mwyn cyrraedd eu nod. Gall hyn gynnwys cyflogaeth, hyfforddiant pellach a/neu addysg neu gyfleoedd eraill. Mae'r rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth agos â gwasanaethau cymorth ieuenctid eraill, megis prosiect ESF Cam Nesa, wrth ddarparu cefnogaeth fwy dwys ag agweddau megis iechyd a lles.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddysgu Gydol Oes, “Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc yng Ngheredigion fod yn rhan o weithgareddau a chyrsiau newydd a chyffrous y bydd yn helpu datblygu eu sgiliau a rhinweddau sydd angen ar gyfer eu huchelgeisiau yn y dyfodol. Mae’n hyfryd gweld y Gwasanaeth Ieuenctid yn datblygu rhaglenni fel hyn i fod o fudd i fywydau pobl ifanc.”

Am fwy o wybodaeth, neu i ddysgu mwy am gyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch draw i’r tudalennau Facebook, Twitter neu Instagram ar @GICeredigionYS, wefan www.giceredigionys.co.uk/hafan neu cysylltwch â’r Tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

20/08/2018