Mae amserlen brysur o weithgareddau cynhwysol wedi’u trefnu i’r plant dros wyliau’r haf ar draws canolfannau hamdden yn y sir sy’n cael eu rhedeg gan Gyngor Sir Ceredigion.

O bêl droed i sesiynau cestyll neidio, o sgiliau beicio i saethyddiaeth, mae amrywiaeth eang o weithgareddau i ddewis ohono dros gyfnod yr haf.

Hefyd, bydd gwersyll a diwrnodau aml gampau yn cael eu cynnal mewn rhai canolfannau hamdden lle bydd plant yn medru mynychu am y diwrnod cyfan. Mae hyd yn oed taith am ddiwrnod i’r traeth gyda Chanolfan Hamdden Teifi!

Mae amrywiaeth o raglenni dysgu nofio ar gael ym Mhwll Nofio Llanbedr Pont Steffan a Chanolfan Hamdden Plascrug yn ystod gwyliau'r Haf. Bydd wythnos o wersi nofio yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig yng Nghanolfan Hamdden Plascrug yn dechrau ar 5 Awst.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw Aelod Cabinet y cyngor â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Hamdden. Dywedodd, "Mae Ceredigion Actif unwaith eto yn darparu amserlen brysur o weithgareddau hwyliog yn ystod yr haf. Mae'n ffordd iach a gwerth chweil i blant dreulio'u hamser yn ystod yr haf.”

Mae’n rhaid archebu lle ar gyfer y gweithgareddau ac mae hawl gan staff y canolfannau i ohirio unrhyw sesiwn os na fydd digon o blant i’w cynnal.

Am ragor o wybodaeth ar weithgareddau dros yr haf i’r plant wedi’u trefnu, ewch i wefan Ceredigion Actif. Gellir cael y diweddaraf trwy ddilyn tudalennau Ceredigion Actif ar Facebook a Thrydar.

16/07/2019