Eleni bydd y Little Mill Players yn perfformio ‘Puss in Boots’ yn Theatr Felinfach ar Nos Iau 25 a Nos Wener 26 Ionawr am 7.30yh yn ogystal ag ar Ddydd a Nos Sadwrn 27 Ionawr am 2.30yp a 7.30yh.

Er bod ‘Puss in Boots’ yn stori gyfarwydd, nid y stori draddodiadol yw hon, ond yn hytrach un gyda thro yn ei chynffon! Serch hyn, mae’n bantomeim go iawn ac yn addas i’r teulu cyfan.

Mae’r Little Mill Players wedi bodoli ers oes y theatr yn Felinfach, sef ers 1972. Daw aelodau'r cwmni o wahanol rannau o Geredigion ac un o aelodau hir sefydlog y cast presennol yw Dilys Megicks, sydd wedi bod yn aelod am ryw 23 o flynyddoedd. Dros y cyfnod mae hi wedi portreadu nifer o gymeriadau amrywiol o fod yn un o’r dynion drwg, i Fam-gu. Mae’n mwynhau slapstic disgwyliadwy pantomeim yn ogystal â bod yn ddihiryn!

Mae ystod oedran y cast yn amrywio o 7 at dros 60 ac mae eu hystod gwaith pob dydd yn amrywio o waith corfforol i reoli a hefyd yn cynnwys disgyblion ysgol a myfyrwyr. Cyfarwyddwr y sioe yw Stephen Entwhistle sydd ei hun wedi bod yn rhan o’r cwmni ers tua 15 mlynedd. Cychwynnodd fel Cyfarwyddwr Cerdd ac mae hefyd wedi bod yn actio yn y cynyrchiadau, ond bellach fe yw’r bos!

Aelod arall o’r cast yw Andrew Tyrrell sydd fel arfer yn chwarae’r ‘Dame’ neu gymeriad digri’. Beth bynnag yw ei gymeriad ar y llwyfan, fe heb os yw digrifwr y cast. Mae ganddo ddylanwad enfawr ar bawb arall a fe sy’n cadw pawb arall i fynd!

Mae rhai aelodau’r cast yn mynd o gwmpas y trefi lleol megis Llanbedr Ponst Steffan, Aberaeron a c Aberystwyth yn hyrwyddo’r digywddiad felly gwyliwch allan rhag ofn i chi ddod ar eu traws.

Cofiwch ddilyn tudalen Facebook y cwmni er mwyn cael cyfle i ennill tocynnau i’r perfformiadau. Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Theatr Felinfach drwy ffonio 01570 470697 neu ar-lein ar www.theatrfelinfach.cymru. Pris tocynnau yn £8 i oedolion, £7 i Bensiynwyr a £6 i blant.

22/01/2018