Mae gwaith wedi dechrau i wella mynediad i Fryngaer Pen Dinas ym Mhenparcau, Aberystwyth. Bydd y gwaith yn parhau tan fis Hydref 2019.

Mae'r gwaith yn cael ei ariannu drwy grant o £50,000 gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Bydd y gwaith yn ffocysu ar yr arwynebedd o gwmpas yr henebion cofrestredig ac i ddarparu cysylltiadau gwell i’r ddau dreial Ystwyth a Rheidol a’r llwybr arfordir Cymru. Mae'r gwaith ei hun yn cynnwys ehangu ac ail-osod llwybrau, torri llystyfiant yn ôl a chyflwyno panels yn y safle a theithiau tywys ar y We.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio, “Mae’r newyddion yma’n wych i drigolion Penparcau a thwristiaid. Bydd y prosiect hwn yn gwella hygyrchedd i fryngaer Pen Dinas yn sylweddol ac yn lleihau’r rhwystrau sy’n atal mynediad i gefn gwlad. Mae rhoi’r cyfleoedd i fod yn rhan o’r prosiect i drigolion a’r cyhoedd yn rhoi cyfle iddynt fod yn rhan o rywbeth a fydd yn wneud gwahaniaeth mawr.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ddiolchgar iawn i bawb a wirfoddolodd eu hamser i helpu hyd yn hyn gan gynnwys unigolion, teuluoedd a grwpiau. Yn ystod y gwanwyn, bydd mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan, gan gynnwys cwrs i bobl sydd â diddordeb mewn helpu gyda gwaith cynnal a chadw ar y safle yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect neu am sut y gallech gymryd rhan, anfonwch e-bost i Countryside@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881 a gofynnwch am gael siarad ag aelod o'r tîm Arfordir a Chefn gwlad.

 

20/02/2019