Mae'r cyfnod gwahoddiad i dendro ar gyfer dylunio ac adeiladu canolfan iechyd, gofal cymdeithasol a thai integredig newydd, Cylch Caron yn Nhregaron, wedi cau. Mae’r cyflwyniadau a dderbyniwyd yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd y cyfle am gontract yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ar 12 Chwefror 2018. Rhoddwyd gwahoddiad i’r pum contractwr a’r sgôr uchaf i dendro ar gyfer darparu'r cynllun hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Cadeirydd Bwrdd Rhanddeiliaid Cylch Caron, “Mae'r cais tendro yn gam mawr i brosiect Cylch Caron. Diolch i bob cwmni o'r diwydiant adeiladu a ddangosodd ddiddordeb mewn datblygu'r ganolfan hon ar sail dylunio ac adeiladu. Edrychwn ymlaen at glywed canlyniad y gwerthusiad.”

Datblygwyd y tendr ar gyfer datrysiad dylunio ac adeiladu gyda'r nod o ddarparu gwerth gorau am arian a chyfleusterau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal ychwanegol modern ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Tai Canolbarth Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd yn cynnwys meddygfa, fferyllfa gymunedol, clinigau cleifion allanol a chyfleusterau nyrsio cymunedol a gofal cymdeithasol, yn ogystal â fflatiau gofal ychwanegol ac unedau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

13/11/2018