Ar ddydd Iau 11 Gorffennaf, agorwyd ysgol Henry Richard yn Nhregaron yn swyddogol gan Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru.

Yn ystod y digwyddiad dywedodd Dorian Pugh, Pennaeth Ysgol Henry Richard, “Rydym wedi bod ar daith gyffrous dros y blynyddoedd diwethaf a heddiw rydym yn dathlu undod. Mae heddiw yn garreg filltir i’r ysgol yma. Gyda’r cyfleusterau newydd hyn rwy’n ffyddiog y bydd ein disgyblion yn derbyn profiadau a chyfleodd gwerthfawr a chyfoes. Ar y llwybr addysgu sy’n mynd o’r rhai lleiaf, yn dair oed, i’r hynaf yn un ar bymtheg oed, maen nhw’n cydweithio, yn cyd-deithio ac yn cyd-lwyddo a hynny bellach ar un campws, yn un teulu. Heddiw, gwireddwyd ein harwyddair, ‘Mewn Llafur mae Elw,’ a glynwn at y geiriau hyn nawr wrth symud ymlaen.

“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion am fuddsoddi a sicrhau dyfodol disglair i addysg yn y gymuned hon. Rwyf heddiw yn Bennaeth balch iawn o’r ysgol unigryw, arbennig yma – Ysgol Henry Richard. Un ysgol, un safle ac un weledigaeth.”

Ar ôl cwblhau’r adeilad newydd ar gyfer 120 o ddisgyblion o oed cynradd a 30 o leoedd meithrin, a hynny ar safle flaenorol yr ysgol uwchradd, mae Ysgol Henry Richard bellach yn darparu addysg i ddisgyblion o 3 i 16 oed mewn un lleoliad.

Agorodd yr ysgol 3-16 ei drysau i ddisgyblion ar 1 Hydref 2018 ar ôl bod ar sawl safle ynghynt, gan gynnwys hen ysgolion cynradd Tregaron a Llanddewi Brefi.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, yr aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, "Ysgol Henry Richard yw trydedd ysgol 'gydol oed' Ceredigion yn dilyn Ysgol Bro Pedr ac Ysgol Bro Teifi ac mae gennym dystiolaeth gynyddol o fanteision cyd-leoli darpariaeth gynradd ac uwchradd. O ganlyniad i leoli'r ysgol gynradd ar safle'r ysgol uwchradd, mae gan ysgol Henry Richard y gallu i rannu cyfleusterau megis y neuadd fwyta, y gampfa, yr ystafell dechnoleg, y brif neuadd ac ystafelloedd dosbarth gwyddoniaeth. Gellir hefyd defnyddio adnoddau addysgu ar draws y cyfnodau oedran gan alluogi arbenigedd pwnc ac addysgeg i gael eu rhoi ar waith yn hyblyg i ddisgyblion o bob oed."

Roedd y prosiect £5m hefyd yn cynnwys adnewyddu’r gampfa y tu fewn a thu fas ac adnewyddu tu fas ac addurno tu fewn i adain addysgu'r Dyniaethau ar y safle uwchradd. Cwblhawyd y rhaglen waith gyffredinol gan WRW o fewn cyfnod gwreiddiol y contract a’r gyllideb wreiddiol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Miles, "Ariannwyd prosiect Ysgol Henry Richard yn gyfartal gan Gyngor Sir Ceredigion a Chronfa Llywodraeth Cymru - Ysgolion yr 21ain Ganrif. Rydym yn ddiolchgar i'r contractwyr, swyddogion yr awdurdod lleol a'r ysgol am eu gwaith wrth wireddu’r prosiect cymhleth hwn a hynny tra bod y ddarpariaeth uwchradd yn cael ei chynnal ar y safle. Mae'r ysgol mewn sefyllfa dda erbyn hyn i gynnig darpariaeth a chyfleoedd addysgol ardderchog yn Nhregaron a'r cyffiniau a hynny am flynyddoedd lawer i ddod."

Dywedodd Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru, “Y gwaith o ailfodelu ysgol Henry Richard yw'r prosiect olaf fel rhan o raglen ysgolion Ceredigion sydd wedi derbyn £2,500,000 o'r gyfres gyntaf o gyllid gan raglen Llywodraeth Cymru - Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif. Y peth pwysicaf am ein rhaglen yw ei bod wedi'i chynllunio, ei llywodraethu a 'i darparu ar y cyd ag awdurdodau lleol a cholegau ledled Cymru. Mae hyn yn golygu bod y prosiectau hyn wedi cael eu cyflawni'n strategol i ateb y galw lleol. Yma yng Ngheredigion mae hynna wedi'i gyflawni'n sicr drwy fabwysiadu ysgolion o oed meithrin i oedran uwchradd, ac mae Ysgol Henry Richard yn un ohonynt. Dyna’r ffordd arloesol o ddarparu dilyniant a lle cyfarwydd i ddisgyblion ac, ar yr un pryd, darparu addysg gynaliadwy mewn sir wledig.”

15/07/2019