Mae saith portread newydd sbon wedi cael eu llunio’n arbennig ar gyfer wythnos Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Ngheredigion eleni.

Penderfynodd Pwyllgor Llên Eisteddfod Ceredigion ofyn i’r artist Malcolm Gwyon o Flaenporth ddarlunio darnau gwreiddiol o saith llenor o Geredigion, sef Caryl Lewis, y Prifardd Dic Jones, Hywel Teifi Edwards, Lyn Ebenezer, Lleucu Roberts, Menna Elfyn a T Llew Jones.

Mae’r arlunydd Malcolm Gwyon yn arbenigo mewn paentio portreadau, tirweddau ac eiconau Cymreig ac yn falch o gael cyfrannu at y prosiect cyffrous hwn. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth amdano ef a’i waith yma: Malcolm Gwyon

Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion sydd wedi noddi’r portreadau, a byddant yn cael eu cyflwyno i ysgolion uwchradd y sir wedi’r brifwyl i gael eu harddangos yn eu cartref parhaol.

Dadorchuddiwyd y portreadau mewn lansiad arbennig ddydd Sul, 31 Gorffennaf 2022, ym Mhentre’ Ceredigion a byddant yn cael eu harddangos yno trwy gydol yr wythnos. Galwch heibio i’w gweld.

Dywedodd y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, Cadeirydd y Pwyllgor Llên: “Diolch i'r Pwyllgor Llên ac i Malcolm Gwyon am eu gwaith a'u gweledigaeth. Credwn y dylwn ddathlu'r cyfoeth o dalent a gynhyrchwyd gan y sir hon. Mae'r prosiect yma'n waddol arbennig felly; un a fydd yn ysbrydoliaeth i'r genhedlaeth nesaf o feirdd a llenorion yng Ngheredigion.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb am Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae hwn yn brosiect neilltuol i dynnu sylw at rai o lenorion Ceredigion a dathlu traddodiad llenyddol arbennig y sir. Gobeithio bydd gosod y portreadau yn ein hysgolion yn ysbrydoli ein pobl ifanc i fwynhau diwylliant llenyddol a hefyd i werthfawrogi, cymryd rhan ac elwa o’n byd celfyddydol ehangach.”

Ar ôl wythnos yr Eisteddfod, bydd y gweithiau gwreiddiol yn cael eu gosod mewn ysgol uwchradd yn y sir lle mae gan y llenor dan sylw gysylltiad â’r ysgol neu’r ardal honno.

Bydd darlun Hywel Teifi Edwards yn cael cartref yn Ysgol Uwchradd Aberaeron; y Prifardd Dic Jones yn Ysgol Uwchradd Aberteifi; Caryl Lewis yn Ysgol Uwchradd Penglais; Lleucu Roberts yn Ysgol Gyfun Penweddig; Lyn Ebenezer yn Ysgol Henry Richard; Menna Elfyn yn Ysgol Bro Pedr; a T Llew Jones yn Ysgol Bro Teifi.

31/07/2022