Roedd Lee, sy’n 22 oed ac o gefn gwlad Ceredigion, yn ei chael hi’n anodd sicrhau swydd barhaol.

Roedd y ffaith nad oedd ganddo unrhyw fodd o deithio yn ogystal â’i ddiagnosis o awtistiaeth ac iselder yn golygu bod Lee wedi wynebu rhwystrau sylweddol wrth ddod o hyd i waith a’i gadw. Rhoddodd Cymunedau am Waith a Mwy y sgiliau a’r cyfleoedd cywir i Lee ddod o hyd i’r rôl iawn iddo. Erbyn hyn, mae ganddo swydd yn ASN Watson (Savers), gyda dyfodol mwy cadarnhaol o’i flaen.

Roedd Lee yn cael trafferth ariannol gyda dyledion cynyddol, ac er ei fod wedi bod yn gweithio yn y gorffennol nid oedd natur ac amgylchedd y gwaith yn ymarferol i alluoedd Lee; roedd yn aml yn cael ei gamddeall gan gyflogwyr.

Ar ôl cael ei gyfeirio at Gymunedau am Waith a Mwy gan y Ganolfan Byd Gwaith yn Aberystwyth, cafodd Lee gymorth gyda chwilio am swyddi, ceisiadau, llythyrau eglurhaol, ysgrifennu CV, a sgiliau cyfweliad. Mae bellach mewn gwaith cyflogedig, wedi’i sicrhau drwy’r cynllun Kickstart. Mae cynllun Kickstart Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i gyflogwyr greu swyddi ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed ar Gredyd Cynhwysol.

Dywedodd Lee: “Roedd y prosiect o gymorth mawr i mi gan fy mod yn ei chael yn anodd gwybod ble i ddechrau o ran dod o hyd i swyddi, ond mae hyn yn bendant wedi helpu. Mae Cymunedau am Waith a Mwy yma i’ch helpu!”

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion, sy’n cefnogi unigolion 16 oed a throsodd sy’n byw mewn tlodi neu mewn perygl o fyw mewn tlodi ledled Ceredigion a ledled Cymru. Gall cyfranogwyr fod mewn gwaith ond yn byw mewn tlodi, yn ddi-waith, yn byw ar isafswm cyflog neu’n ei chael yn anodd talu costau misol sylfaenol ar gontractau dim oriau achlysurol.

Dywedodd Misha Homayoun-Fekri, Mentor yng Nghymunedau am Waith a Mwy: “Pleser oedd cefnogi Lee. Roedd bob amser yn ymatebol iawn, a buom yn gweithio gyda’n gilydd bob cam o’r ffordd. Rwyf mor falch bod Lee wedi dod o hyd i swydd y gall fod yn hapus ynddi.”

Ers dechrau ei rôl newydd, mae Lee wedi dod yn llawer mwy annibynnol, mae ei iechyd meddwl wedi gwella, ac mae wedi dechrau cynilo arian ar gyfer y dyfodol.

Y Cynghorydd Wyn Thomas yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: “Mae un o bob 100 o bobl ar y sbectrwm awtistiaeth. Mae adroddiad a ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai dim ond 21.7% o bobl awtistig sydd mewn cyflogaeth; sy’n golygu bod busnesau’n colli allan ar y cyfle i elwa ar y cryfderau y gall pobl awtistig eu cynnig i’r gweithle. Felly, mae'n wych clywed bod Lee wedi dod o hyd i gyflogwr sy’n ystyriol o awtistiaeth drwy’r cymorth a ddarparwyd gan Gymunedau am Waith a Mwy, ac rwy’n annog mwy o gyflogwyr i fod yn fwy cynhwysol i bob gallu wrth ystyried gweithwyr."

Os ydych yn credu y gallai’r prosiect eich helpu neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ar 01545 574193 neu anfonwch e-bost at TCC-EST@ceredigion.gov.uk.

 

24/05/2022