Mae adroddiad Estyn diweddar i Ysgol Gynradd Mynach wedi arfarnu’r statws ‘Rhagorol’ ym mhob un o’r pum maes arolygu.

Arfarnwyd yn yr adroddiad bod yr ysgol wedi cyrraedd statws ‘Rhagorol’ mewn safonau; lles ac agweddau at ddysgu; addysgu a phrofiadau dysgu; gofal, cymorth ac arweiniad; ac arweinyddiaeth a rheolaeth.

Mae’r adroddiad yn nodi, ‘Nodwedd arbennig yw’r cyfleoedd i ddisgyblion cyfnod allweddol 2 gynllunio a chyflwyno gwersi ar gyfer gweddill y dosbarth, gan ganolbwyntio ar fedrau penodol.’

Joyce George yw Pennaeth Ysgol y Mynach. Mae hi hefyd yn bennaeth ar Ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid ac Ysgol Gynradd Syr John Rhys. Dywedodd, “Rwyf fel pennaeth yn hynod falch o ganlyniadau’r arolwg ac yn ddiolchgar iawn i’r staff, llywodraethwyr a rheini sy’n cydweithio’n effeithiol fel tîm er mwyn sicrhau addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl. Rwy’n ymfalchio yn y ffaith bod yr arolygwyr wedi nodi bod medrau llythrennedd, rhifedd a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu disgyblion yn rhagorol.

Nodwyd hefyd mae un o nodweddion arloesol Ysgol Mynach yw’r modd y mae athrawon yn addasu a datblygu’r cwricwlwm er mwyn magu annibyniaeth y disgyblion. Mae cydweithio fel partneriaeth ehangach gydag Ysgol Pontrhydfendigaid ac Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd yn fanteisiol iawn ac yn gyfle i rannu arbenigedd, cyd-gynllunio a rhannu syniadau sy’n ymestyn ac ehangu profiadau’r disgyblion ar draws yr ysgolion.”

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Mae’r adroddiad Estyn yn dangos bod Ysgol y Mynach wedi cyrraedd safonau eithriadol o uchel. Mae ôl gwaith caled ac ymroddiad y Pennaeth, staff, llywodraethwyr ac wrth gwrs y plant yn amlwg iawn. Mae’r ysgol yn dangos bod ffordd o gydweithio gydag ysgolion cyfagos mewn ffordd flaengar yn gallu creu canlyniadau rhagorol. Mae pawb yn yr ysgol yn haeddu llongyfarchiadau mawr.”

Mae’r adroddiad yn nodi bod yr ysgol yn gymuned hynod glòs a theuluol. Mae’n nodi hefyd bod gan y Pennaeth weledigaeth flaengar sy’n canolbwyntio’n barhaus ar gynnal a chodi safonau cyflawniad a lles disgyblion.

19/08/2019