Ar Nos Sadwrn 11 Mai am 7:30yh bydd triawd Athena, ynghyd â Steffan Rhys Hughes yn perfformio yn Theatr Felinfach, fel rhan o’u Cyfres Encore.

Athena yw triawd clasurol benywaidd cyntaf Cymru sy’n cynnwys merch leol o Fethania, Gwawr Edwards, Sioned Terry ac Ellen Williams. Ffurfiwyd Athena wrth i’r tair cantores gwrdd un noson i berfformio. Mae’r triawd wedi bod yn brysur iawn yn perfformio ar draws y DU, yn ymddangos ar deledu a radio ac yn creu deunydd newydd.

Mae Steffan Rhys Hughes yn aelod o’r grŵp buddugol Only Men Aloud a enillodd Wobr Glasurol Brit. Yn ogystal â hyn, mae’n cyflwyno ‘Sioeau Cerdd Steffan Rhys’ ar BBC Radio Cymru sef sioe theatr gerddorol sy'n cynnwys gwesteion fel yr actor a'r cyfarwyddwr, Daniel Evans, ac enillydd Gwobr Olivier, Rebecca Trehearn.

Yn dilyn llwyddiant eu recordiadau diweddar a gyhoeddwyd ar label Sain, dyma gyfle i glywed perfformiadau byw gan Athena a Steffan o’r caneuon sy’n ymddangos ar eu recordiau newydd, o ganeuon clasurol a chyfoes yn ogystal â rhai o’r hen ffefrynnau Cymreig.

Mae tocynnau a gwybodaeth ar gael o’r Swyddfa Docynnau Theatr Felinfach – 01570 470697 neu ar ein gwefan - theatrfelinfach.cymru, ac maent yn £12 i oedolion, £11 i bensiynwyr ac aelodau ac £8 i blant a myfyrwyr.

 

02/05/2019