Cafodd gwelliannau teithio llesol yn Aberystwyth eu cwblhau yn ddiweddar ar ôl i Gyngor Sir Ceredigion sicrhau arian grant cyfalaf ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru o £249,000.

Crëwyd llwybr defnydd cymysg ar hyd Boulevard St Brieuc sydd bellach yn parhau ar hyd ochr yr Orsaf Heddlu ac i fyny Coedlan y Parc i’r gyffordd â Ffordd Glyndwr, sef pellter o 650 metr. Uwchraddiwyd y groesfan i gerddwyr ar Boulevard St Brieuc i groesfan twcan newydd, y cyntaf o’i math yng Ngheredigion, a bydd hyn yn caniatáu seiclwyr a cherddwyr i groesi’r ffordd yn ddiogel.

Bu i’r arian yma hefyd alluogi’r darpariad o gysgodfa newydd ar gyfer sgwteri yn Ysgol Gynradd Cymunedol Plascrug a chroesawyd hyn gan y Pennaeth Menna Sweeney, a dywedodd, “Mae hwn yn ychwanegiad ffantastig i’r ysgol am nad oedd y gysgodfa a brynwyd ryw 16 mis yn ôl, yn dilyn gwaith a ariannwyd gan grant ar y Goedlan, yn medru ymdopi â’r galw a nifer y plant sy’n mwynhau sgwtio a seiclo i’r ysgol bob dydd. Mae hyn yn grêt i’w gweld ac y mae’n gymorth mawr wrth fynd i’r afael â phroblemau tagfeydd traffig a brofwyd yn flaenorol yn yr ardal”.

Mae’r Cynghorydd Alun Williams, sy’n Hyrwyddwr Cynghorwyr presennol am Gynaliadwyedd, yn croesawu ei foddhad gyda'r gwelliannau, “Rwy’n hapus iawn ein bod wedi medru denu arian i wneud gwelliannau a chyfleusterau pellach ar gyfer cerddwyr a seiclwyr. Mae’r gwaith yn cydweddu â Pharc Sglefrio newydd Kronberg gan hefyd wella ymddangosiad porth pwysig i dref Aberystwyth gyda chynnydd yn nifer y coed a blannwyd, sef coed Gellyg Addurniadol amrywiol sydd bellach wedi eu hymestyn ymhellach ar hyd Coedlan y Parc. Gosodwyd wyneb newydd ar y ffordd, a thrwy hynny gwaredu rhan o’r pafin anwastad er mwyn gwella diogelwch a phrofiad unigolion ac annog pobl i seiclo a cherdded fel y gall ein preswylwyr arwain bywydau mwy llesol ac iachus a gwneud llai o siwrneiau yn y car. Rwy’n ddiolchgar i Swyddogion Priffyrdd a chontractwyr lleol am yr ansawdd uchel o waith a wnaed ar y cynllun yma.’’

Hefyd gosodwyd yn y dref dau stondin trwsio beiciau newydd â phympiau integredig, un y tu allan i Ganolfan Hamdden Plascrug a’r llall ger y brif fynedfa i Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.

24/05/2018