Mae partneriaeth aml-asiantaeth wedi'i anelu at atal a lleihau niwed rhag camddefnyddio sylweddau ymhlith plant a phobl ifanc Ceredigion wedi ei lansio.

Fe wnaeth Partneriaeth Lleihau Niwed ac Atal gwrdd am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2017 ond mae bellach yn cael ei lansio'n ffurfiol i gyd-fynd ag Wythnos Diogelu (12 i 16 Tachwedd).

Mae'r Bartneriaeth yn dwyn ynghyd uwch bersonél o amrywiaeth o asiantaethau a phartïon â diddordeb i sicrhau dulliau cydlynol a chyson o leihau niwed ac atal yn y sir.

Mae gwaith y Bartneriaeth yn adeiladu ar y rhaglen ardderchog, SchoolBeat.Cymru. Mae'n cynnwys hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r ddarpariaeth Lleihau Niwed ac Atal presennol, gwaith cyffredinol a thargededig o fewn ysgolion, colegau a chlybiau, gan ddatblygu siart llif i bartneriaid ymateb i ddigwyddiadau camddefnyddio sylweddau. Hefyd, i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau a pheryglon sy'n bodoli eisoes.

Dywedodd Barry Rees, Cadeirydd Partneriaeth Lleihau ac Atal Niwed a Chyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion, “Mae pryder bod plant a phobl ifanc Ceredigion yn dod yn fwyfwy agored i niwed sylweddol mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau a gweithgareddau cysylltiedig. Rhaid inni wynebu'r ffaith bod yna faterion camddefnyddio sylweddau yn y sir, gan gynnwys yn ein hysgolion a darparwyr addysg eraill, yn ogystal ag yn y gymuned ehangach. Felly mae'r Bartneriaeth hon yn dwyn ynghyd partneriaid allweddol i weithio'n rhagweithiol, yn agored ac yn weledol ar atal a lleihau niwed.

“O fewn y Bartneriaeth, caiff gwybodaeth ei rhannu ar strategaethau lleihau niwed presennol a sut y gellir eu tynnu at ei gilydd mewn strategaeth aml-asiantaeth gyfunol. I ddechrau, mae'r Bartneriaeth wedi canolbwyntio ar ardal Aberystwyth ond bydd ei gwmpas yn ehangu i gynnwys Ceredigion gyfan.”

Mae asiantaethau ar hyn o bryd yn cynnwys Cyngor Sir Ceredigion, Coleg Ceredigion, Heddlu Dyfed-Powys, Ysgol Gyfun Penglais, Defnyddio Sylweddau Diagnosis Deuol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Ysgol Gyfun Penweddig, Hyfforddiant Ceredigion Training, Cadeirydd Ysgolion Aberystwyth a'r Sector Gwirfoddol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Nicola Carter o Heddlu Dyfed-Powys, “Datblygwyd y Bartneriaeth hon i ddod â'r arbenigedd diweddaraf a pherthnasol at ei gilydd i sicrhau ein bod yn cydweithio i atal a lleihau niwed cyffuriau a sylweddau eraill yng Ngheredigion. Byddwn yn sicrhau bod ein Swyddogion Cyswllt Ysgolion a Thimau Plismona Bro yn gweithio gyda partneriaid ac asiantaethau eraill i sicrhau diogelwch a lles ein pobl ifanc.”

Bydd y Bartneriaeth yn darparu diweddariadau ar ei weithgareddau i Fyrddau a Fforymau perthnasol eraill megis Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion, Grŵp Gweithredol Plant a Phobl Ifanc Ceredigion, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Ceredigion, Grŵp Gweithredol Lleol CYSUR (Ceredigion), Cyngor Ieuenctid Ceredigion, Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Dyfed a Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.

12/11/2018