Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yng Ngheredigion wedi cymryd rhan yng nghyfarfod Diogelwch Cymunedol mwyaf y byd ar ddydd Iau 21 Gorffennaf fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2022.

Y trefnwyr yw Resolve, prif sefydliad y DU o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch cymunedol, a nod yr ymgyrch yw cael cynifer â phosib o grwpiau o bob cwr o’r wlad i gael sgwrs fawr ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Yn ôl ymchwil YouGov a gomisiynwyd gan Resolve, mae 14% o bobl wedi dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y tair blynedd diwethaf, sy'n cyfateb i 9.5 miliwn o bobl ledled y DU.

Fodd bynnag, ar ôl gweld neu brofi’r ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae’n peri gofid nad oedd dros hanner y bobl (57%) wedi rhoi gwybod i neb amdano. Dywedodd traean o bobl fod ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gwaethygu yn eu hardal nhw o gymharu â thair blynedd yn ôl.

Wrth ymuno â Chyfarfod Diogelwch Cymunedol Mwyaf y Byd, mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn annog eraill i gael sgwrs i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd Matthew Vaux, Cynghorydd Cyngor Sir Ceredigion ag Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn cefnogi’r ymgyrch bwysig iawn hon. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i roi’r flaenoriaeth sydd ei hangen ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a hynny drwy gydweithio gyda sefydliadau partner a chymunedau. Gyda'n gilydd gallwn fynd i'r afael â hyn a sicrhau bod ein cartrefi a'n cymunedau yn ddiogel i bawb sy'n byw ynddyn nhw. Os ydych chi'n dyst i unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i 101 naill ai dros y ffôn neu ar-lein.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Resolve, Rebecca Bryant OBE: “Rydym yn falch iawn fod Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn cefnogi’r ymgyrch hanfodol yma. Mae siarad am ymddygiad gwrthgymdeithasol a sut mae modd mynd i'r afael ag ef yn rhan allweddol o'r gwaith o ddelio â'r heriau cynyddol sy'n wynebu cymunedau. Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu cael effaith hirdymor ar fywydau dioddefwyr ac ar gymunedau felly mae’n bwysig iawn trafod sut i fynd i'r afael ag ef.”

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ewch i www.resolveuk.org.uk/asbawarenessweek

21/07/2022