Yn ystod cyfarfod y Cabinet heddiw, cymeradwyodd Aelodau’r Cabinet adleoli o leiaf dau deulu o Afghanistan sy’n Staff a Gyflogir yn Lleol (LES).

Ysgrifennodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig at Arweinydd a Phrif Weithredwr pob Awdurdod Lleol ar 30 Gorffennaf yn galw am gymorth i groesawu teuluoedd LES o Afghanistan i'w hawdurdodau lleol. Mae’r grŵp hwn o wladolion Affgan wedi gweithio i’r DU ac wedi peryglu eu bywydau ochr yn ochr â lluoedd Prydain yn Afghanistan dros yr ugain mlynedd diwethaf, ac maent bellach angen cael eu hadleoli i'r DU gyda’u teuluoedd.

Yn dilyn y golygfeydd a oedd yn datblygu yn Afghanistan ym mis Awst, cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion y byddai’n ymuno â chynllun Llywodraeth y DU i adleoli unigolion o Afghanistan a Gyflogir yn Lleol sydd mewn perygl o ddialedd y Taliban. Gwnaed apêl gyhoeddus i berchnogion eiddo yng Ngheredigion i helpu i nodi unrhyw eiddo hunangynhwysol yn y sector rhentu preifat a allai fod ar gael i helpu’r cynllun.

Yn sgil yr apêl, cynigiwyd wyth eiddo ledled Ceredigion. Mae Tîm Tai y Cyngor wedi cynnal asesiad o’r eiddo hyn ac wedi nodi dau sy’n cyd-fynd â’r canllawiau a osodir gan Lywodraeth y DU. Yn ogystal â hyn, o ganlyniad i'r apêl, mae’r Tîm Tai wedi nodi eiddo nad oedd yn addas ar gyfer teulu ond a allai gael ei ddefnyddio i roi cartref i drigolion unigol yng Ngheredigion sy’n ddigartref.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd Grŵp Adleoli Ffoaduriaid Ceredigion: “Mae’r sefyllfa yn Afghanistan wedi datblygu i fod yn argyfwng dyngarol a’n dyletswydd ni yw ymateb a chynnig cymorth i’r rheiny yr effeithiwyd arnynt. Mae ein meddyliau gyda’r bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y gwrthdaro, gan gynnwys unrhyw un sy’n byw yma fel cyn-filwr, pobl Afghanistan a'r rheiny sy'n ffoi am eu bywydau. Rydym yn hynod o ddiolchgar i berchnogion eiddo yng Ngheredigion sydd wedi cynnig eu heiddo; mae haelioni a charedigrwydd ein trigolion yn destun balchder mawr.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth i adleoli gwladolion o Afghanistan trwy’r Polisi Cymorth ac Adleoli Affganiaid (ARAP), ewch i: https://homeofficemedia.blog.gov.uk/2021/08/16/factsheet-uk-support-to-resettle-afghan-nationals/

Mae'r Cyngor yn disgwyl i’r teuluoedd o Afghanistan gyrraedd Ceredigion ymhen ychydig wythnosau a byddant yn derbyn cymorth gan y Cyngor a'i asiantaethau partner i'w helpu gyda'r broses adleoli.

Gall perchnogion llety hunangynhwysol yng Ngheredigion a allai fod â diddordeb mewn cefnogi'r cynllun hwn dal gysylltu â'n Canolfan Gyswllt ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk a gofyn am y Cydlynydd Adleoli Ffoaduriaid.

 

07/09/2021