Rhwng 6 April a 29 Mehefin bydd Amgueddfa Ceredigion yn arddangos casgliad o weithiau celf a fydd ar fenthyg iddi gan Oriel Tate am y tro cyntaf. Bydd y darluniau, gan gynnwys tri gan Henry Moore, yn rhan o arddangosfa Defaid sydd ar fin cael ei ddangos yn yr Amgueddfa ac a fydd yn edrych ar hanes, treftadaeth a diwylliant y cymunedau sy’n ffermio defaid a’u perthynas ehangach â thir a thirwedd Cymru.

Mae’r holl weithiau celf o Tate yn cynnwys portreadau o ddefaid sydd, ar y cyd â darluniau Henry Moore, yn cynnwys: llun gan Joseph Beuys, sgrin-brintiad ar bapur - ‘Sheep B’ - gan yr artist o Israel Menashe Kadishman. Bydd ymddangosiad y gwaith hyn yn yr amgueddfa yn uchafbwynt go iawn i’r cyhoedd ac mae’n cynnig cyfle cyffrous i weld artistiaid o Gymru yn arddangos eu gwaith wrth ochr gwaith celf o bwys rhyngwladol ynghyd â chasgliad o waith celf o Geredigion.

I gyflawni’r benthyciadau hyn, darparwyd cyllid gan Raglen Fenthyca Weston ar y cyd ag Art Fund. Crëwyd Rhaglen Fenthyca Weston gan Sefydliad Garfield Weston ac ‘Art Fund’ a hi yw’r cynllun cyllido cyntaf ledled y DU i alluogi orielau llai ac amgueddfeydd awdurdodau lleol i fenthyg gwaith celf ac arteffactau oddi wrth gasgliadau cenedlaethol.

Rhoddwyd rhagor o gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a ‘The Ferryman Project: Sharing Works of Art’ a gefnogir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Sefydliad John Ellerman ac ‘Art Fund’.

Bydd symposiwm amlddisgyblaethol, ‘Tirweddau’r Dyfodol’ ar 9 -10 Mai, yn cyd-fynd â’r arddangosfa i ymhelaethu ar y trafodaethau a’r sgyrsiau a gaiff eu ysbrydoli gan weithiau celf yr arddangosfa.

Ymhlith yr artistiaid fydd yn cyfrannu mae Miranda Whall, sy’n gweithio ar gyfres o ddarnau celf yn ymwneud â thirwedd; mae’r un cyntaf, ‘Crossed Paths’, yn edrych ar hanes ucheldir Cymru o safbwynt defaid. Bydd gwaith newydd ar ddangos mewn amrywiol o gyfryngau gan gynnwys ffilm, cerfluniau a gosodiadau a hynny gan yr artistiaid ‘Short and Forward’, Christine Mills, Morag Colqhuon, Carwyn Evans a’r ffotograffydd Marian Delyth.

Ar y cyd â’r arddangosfa, bydd yr artist/gwneuthurwraig ffilm Ffion Jones yn ymwneud â ffermwyr defaid i wneud darn o waith newydd mewn cydweithrediad â chymunedau amaethyddol, gan ddefnyddio casgliad amaethyddol Amgueddfa Ceredigion i’w hysgogi. Bydd y gwaith terfynol yn cael ei ddangos fel rhan o’r arddangosfa.

Dywedodd Alice Briggs, Curadur Cynorthwyol Amgueddfa Ceredigion, “Bydd y cymorth ariannol i Defaid gan Raglen Fenthyca Weston ar y cyd ag ‘Art Fund’ ac eraill yn gadael gwaddol a fydd yn para y tu hwnt i’r arddangosfa ei hun. Bydd y gwelliannau angenrheidiol a’r rhaglenni sy’n cyd-fynd yn galluogi’r amgueddfa i fenthyg arteffactau a thrysorau pwysig eraill i’w harddangos yn y dyfodol – rydym eisoes yn datblygu cynlluniau i fenthyg eitemau o’r Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Cymru yn 2020, gan sicrhau bod diwylliant a threftadaeth ar gael yn fwy hygyrch i bobl Ceredigion.”

Dywedodd Sophia Mason, Ymddiriedolwraig Sefydliad Garfield Weston, “Rydym wrth ein boddau yn cychwyn ar ail flwyddyn Rhaglen Fenthyca Weston gydag arddangosfa yng Nghymru. Mae’n anhygoel gweld cymaint mae’r rhaglen hon yn grymuso amgueddfeydd fel un Ceredigion yn ogystal â sicrhau bod modd i’n trysorau cenedlaethol gael eu gweld gan gynulleidfaoedd yng nghyd-destun eu hardal a’u treftadaeth nhw.”

Dywedodd Stephen Deuchar, Cyfarwyddwr Art Fund, “Un o amcanion Rhaglen Fenthyca Weston ar y cyd ag Art Fund yw annog amgueddfeydd i rannu eu casgliadau â’i gilydd a dod â budd a chyfleoedd newydd i’w hymwelwyr. Rydym yn falch o weithio â Sefydliad Garfield Weston i wireddu’r rhaglen genedlaethol bwysig hon.”

Bydd yr arddangosfa yn cychwyn ddydd Sadwrn, 6 Ebrill am 12yp. Mae Amgueddfa Ceredigion ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 10yb i 5yp ac mae mynediad am ddim. Gweler fwy o wybodaeth yma: www.ceredigionmuseum.wales/hafan/

Gweithdai sy’n gysylltiedig â’r arddangosfa:
Gweithdai Gwlanog adeg y Pasg
• 18 Ebrill ,2-4pm: Byddwch yn greadigol y Pasg hwn yn ein gweithdy gwlanog i deuluoedd sydd am ddim (croesewir cyfraniad).
• 27 Ebrill,12.30–4.30pm: Dysgwch sut i wneud dafad ffelt â nodwydd, gan ddefnyddio gwlân o Gymru, yng nghwmni’r artist Ruth Packham. Oed 14+ ag yn £22 am ticed (dim ond hyn a hyn o le, angen archebu o flaen llaw)

Symposiwm Tirweddau’r Dyfodol, 9-10 Mai – www.ceredigionmuseum.wales/futurelandscapes

 

 

25/03/2019