Ni fydd gwaith adeiladu ar estyniad adran gynradd Ysgol Henry Richard, Tregaron wedi ei gwblhau erbyn dechrau’r tymor newydd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn gwybodaeth gan y contractwr sy’n adeiladu estyniad cynradd Henry Richard na fydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau erbyn 04 Medi 2018. Bydd disgyblion oed cynradd bellach yn symud i’w safle newydd ar 01 Hydref 2018. Bydd disgyblion oed cynradd Ysgol Henry Richard yn dychwelyd i gampysau cynradd Llanddewi a Thregaron yn y cyfamser.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Cadeirydd y Llywodraethwyr; “Byddwn yn cyd-weithio er mwyn sicrhau sefydlogrwydd i ddisgyblion yn ystod y cyfnod byr hwn o oedi, ac yn edrych ymlaen yn fawr i gyfuno pob campws mewn estyniad o’r safon uchaf ar 01 Hydref 2018.”

Mae’r Cyngor yn parhau i gydweithio’n agos gyda’r contractwr yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r ysgol wedi ysgrifennu at rieni a gwarchodwyr y plant sydd yn cael eu heffeithio gan yr oediad.

21/08/2018