Cynhelir noson arbennig i gofio’r gwaith hynod awdur llyfrau plant mwyaf adnabyddus Cymru, T.Llew Jones, yn Llyfrgell Aberystwyth am 07:30yh ar ddydd Mercher, 10 Hydref.

Bydd y noson coffa, sydd am ddim, yn cynnwys araith gan siaradwr gwadd, y Prifardd Ceri Wyn Jones a pherfformiad amlgyfrwng gan Gwmni Actorion Theatr Felinfach. Bydd y perfformiad yn dilyn cymeriad o’r enw Marged, a’i thaith trwy fyd hudol T.Llew Jones.

Cyn dod yn ysgrifennwr llawn amser - roedd T.Llew Jones, a fu farw yn 2009 - yn athro ysgol gynradd yng Ngheredigion am 35 o flynyddoedd. Cyhoeddodd dros 50 o lyfrau ar gyfer oedolion a phlant. Cafodd rhai ohonynt eu haddasu ar gyfer y teledu a gafwyd eu dangos ledled y byd.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant MBE, Aelod Cabinet a chyfrifoldeb am Wasanaethau Llyfrgelloedd, “Pob blwyddyn, mae nifer o ysgolion ar draws y sir yn dathlu diwrnod T.Llew Jones ar 11 Hydref, pan ellir gweld llawer o for ladron anturus yn mwynhau clywed yr hanes o’r cymeriadau lliwgar sydd yn ei nofelau. Bydd y noson coffa ar 10 Hydref yn gyfle gwych i drigolion Ceredigion i adlewyrchu a dathlu'r gwaith gwych T.Llew Jones.”

Mae'r noson am ddim, ond mae angen archebu lle. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Emyr Lloyd yn
Llyfrgell Aberystwyth ar 01970 633717 neu e-bostiwch emyr.lloyd@ceredigion.gov.uk.

01/10/2018