Cynhelir noson arbennig i gofio gwaith awdur llyfrau plant mwyaf adnabyddus Cymru, T. Llew Jones.

Ar nos Iau, 06 Hydref am 7:30yh, cynhelir Noson Goffa T. Llew Jones yn Llyfrgell y Dref Aberystwyth, Canolfan Alun R Edwards.

Y trydydd noson goffa swyddogol i gael ei drefnu gan y Llyfrgell, bydd y noson yn cynnwys araith gan y siaradwr gwadd, Jon M O Jones. Teitl y sgwrs yw ‘Bwbw o ben Foel Gilie: atgofion am gymdeithas wledig y Cilie'. Bydd hefyd perfformiad gan Barti Camddwr.

Cyn dod yn awdur llawn amser, roedd T. Llew Jones yn athro ysgol gynradd yng Ngheredigion am 35 o flynyddoedd, a bu farw yn 2009. Cyhoeddodd dros 50 o lyfrau ar gyfer oedolion a phlant. Cafodd rhai ohonynt eu haddasu ar gyfer y teledu ac fe’u dangoswyd ledled y byd.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Llyfrgelloedd, “Pob blwyddyn, bydd nifer o ysgolion ar draws y sir yn dathlu Diwrnod T. Llew Jones ar 11 Hydref, a gwelir cenedlaethau newydd yn dod i adnabod Twm Sion Cati, Barti Ddu, trigolion Plasywernen ac yn gweld y Tân ar y Comin yn cynnau o’u blaenau. Bydd y noson goffa ar yr 6ed o Hydref yn gyfle gwych i drigolion Ceredigion i gofio a dathlu cyfraniad T. Llew Jones.”

Mae'r noson Gymraeg hon am ddim, ond mae angen archebu lle. I archebu eich lle neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Llyfrgell Aberystwyth ar 01970 633717 neu e-bostiwch llyfrgell@ceredigion.gov.uk.

27/09/2022