Cafwyd noson agored lwyddiannus i'r cyhoedd yn Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) ar nos Fercher, 07 Tachwedd.

Roedd agor drysau HCT yn gyfle i bobl weld yr ystod wych o gyfleoedd hyfforddi sydd ar gael yno. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddiant i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn gweld pa brentisiaethau sydd gan HCT i'w gynnig.

Dywedodd Mark Gleeson, Rheolwr Dysgu Galwedigaethol Ôl-14, “Mae'n bwysig bod HCT yn cynnal nosweithiau agored i ddangos gwahanol gyfleoedd dysgu sydd ar gael i bob dysgwr. Mae HCT yn cynnig nifer fawr o brentisiaethau sy'n sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o weithlu medrus yn cael eu hyfforddi a'u cyflogi gan gwmnïau lleol. Mae hyn yn bwysig iawn i economi Ceredigion.”

Roedd cyfle i gael taith o amgylch yr adeilad, i siarad â thiwtoriaid, i edrych ar y gweithdai, a gweld hyfforddeion a phrentisiaid ar waith. Rhoddodd hyn flas o'r math o waith a wneir bob dydd yn y ganolfan hyfforddi.

Mae hyfforddeiaethau a phrentisiaethau, ond hefyd dosbarthiadau nos, yn cael eu dysgu yn HCT, fel y mae'r Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet dros y Gwasanaeth Dysgu a Dysgu Gydol Oes yn esbonio, “Os nad ydych chi'n astudio tuag at gymhwyster llawn mewn masnach benodol, ac eisiau ennill rhai o'r sgiliau sylfaenol yn yr amrywiol lwybrau y mae HCT yn arbenigo ynddo, beth am ymuno mewn dosbarth nos? Mae'r rownd nesaf y cyrsiau nos yn dechrau nawr. Felly ewch amdani. Cysylltwch â HCT i weld beth sydd ganddynt i'w gynnig i chi.”

Mae'r dosbarthiadau nos yn rhedeg am chwe wythnos ac mae HCT yn cynnig y rhain 2-3 gwaith y flwyddyn. Mae HCT yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ar gyfer pobl o bob oed, gan gynnwys Trin Gwallt, Gofal Plant, Gweinyddu Busnes, Technoleg Gwybodaeth, Gwaith Saer, Plymio, Trydan, Gofio, Amaethyddiaeth, Mecaneg Modur a Weldio.

Am fwy o wybodaeth, chwiliwch am 'Hyfforddiant Ceredigion Training' ar Facebook, neu ewch i'r wefan.

16/11/2018